Cartrefi Clyd Arbed yw cynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi tanwydd mewn ardaloedd penodol. Mae ei brif bwyslais ar berfformiad effeithlonrwydd ynni cartrefi’r deiliaid tai hynny sy’n byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sydd yn aml iawn yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru
Bydd y cynllun yn targedu ardaloedd â niferoedd uchel o gartrefi eiddo preifat nad ydynt wedi eu cysylltu â’r grid nwy neu sy’n anodd eu gwresogi.
Nod Arbed yw lleihau ôl troed carbon y stoc dai yng Nghymru ac wrth wneud hyn, helpu i ddarparu cydnerthedd cartrefi rhag costau ynni cynyddol.
Cyflawnir hyn drwy Reolwr Cynllun unigol (contractwr) yn gweithio ar draws Cymru gyfan.
Bydd y rheolwr cynllun yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau.
Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.