We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. Please choose to Accept or Deny cookies on this website.AcceptDenyPrivacy policy
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn gydweithrediad rhwng 13 o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus ledled de Cymru.
Gan ddefnyddio dull Cymoedd cyfan o weithredu, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) yma i gysylltu pobl a lleoedd, gan ddod ag iechyd y tir, y bobl a’r economi at ei gilydd ym mhopeth rydym yn ei wneud.
Mae tirwedd y Cymoedd yn cael ei chydnabod am ei hansawdd drwy ymrwymiad rhanbarthol i hyrwyddo a rheoli wedi’u cydlynu
Mae pobl yn cael eu hailgysylltu â thirwedd y Cymoedd er eu lles, fel ei bod yn dod yn lle ar gyfer ymarfer corff, gwaith, ymlacio a natur, yn ogystal ag ar gyfer y celfyddydau a threftadaeth, ac ar gyfer addysg.
Mae tirwedd y Cymoedd yn sail i economi leol gadarn, gan gefnogi busnesau, menter gymunedol a datblygu sgiliau a dysgu
Bydd y prosiect yn gwneud y canlynol:
Datblygu cynigion ar gyfer y model llywodraethu, ariannu a gweithredu hirdymor ar gyfer rheoli tirwedd y Cymoedd yn rhanbarthol gan gynnwys ystyried dynodiad tir ar gyfer y Cymoedd
Cefnogi dull rhanbarthol o ddefnyddio presgripsiwn cymdeithasol a darparu gweithgareddau lles
Edrych ar opsiynau a datblygu rhwydweithio rhanbarthol priodol rhwng cymheiriaid i gefnogi datblygiad asedau tirwedd a threftadaeth a arweinir gan y gymuned
Prosiectau peilot sy’n ymwneud â mannau gwyrdd y gellir eu hefelychu ar sail ranbarthol
Adnabod a rhannu arfer gorau mewn perthynas â gweithgarwch sy’n seiliedig ar dirwedd.
Cwmpas daearyddol
Mae PRhC yn cwmpasu ardal Cymoedd De Cymru i gyd sy’n ymestyn o Dorfaen yn y dwyrain i Gymoedd Aman a Gwendraeth yn y gorllewin. Dyma’r ardal rhwng yr M4 a Bannau Brycheiniog sy’n cwmpasu 13 o awdurdodau lleol: y rhai yn y Brifddinas-Ranbarth a hefyd CBS Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Abertawe a Chyngor Sir Gaerfyrddin.
Manylion cyswllt
Enw: Phil Lewis E-bost: Phil.Lewis@Bridgend.gov.uk Rhif ffôn: 07870 402491 Cyfeiriad: CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Raven’s Court, Pen-y-bont ar Ogwr
Gwefan:
Facebook:
Twitter:
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud er gwaethaf effaith fawr COVID ar y Pyrth Darganfod, partneriaid awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd a’n gallu i ymgysylltu â grwpiau cymunedol. Mae’r cynnydd hwn yn cynnwys y canlynol:
Lansio gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol PRhC;
Cynnal arolwg rhanbarthol o fannau gwyrdd gyda mwy na 400 o ymatebwyr;
Cwblhau nifer sylweddol o brosiectau cyfalaf ar safleoedd y Pyrth Darganfod a symud ymlaen tuag at gwblhau’r prosiectau sy’n weddill;
Sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer datblygu 2 orsaf waith beilot o bell ar safleoedd y Pyrth Darganfod;
16 o brosiectau cymunedol ar y gweill, neu’n cael eu datblygu, ar draws 7 ardal awdurdod lleol;
Ychwanegu Llyn Llech Owain fel safle Porth Darganfod yn Sir Gaerfyrddin
Gweithio gyda phartneriaid, cwblhau cynlluniau busnes cadarn ar gyfer cyllid hyd at fis Mehefin 2023
Penodi OB3 Research yn bartneriaid gwerthuso PRhC.
We use cookies to ensure that we give you the best experience on our website. Please choose to Accept or Deny cookies on this website.AcceptDenyPrivacy policy