Mae Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi lansio arolwg i nodi’r hyn y mae busnesau yn credu yw’r ysgogwyr allweddol ar gyfer llwyddiant busnes ac i benderfynu pa wasanaethau sydd eu heisiau arnynt ar gyfer twf yn y dyfodol.
Mae bwrdd y Cyngor Busnes yn gyfrifol am egluro anghenion busnes, nodi blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cymorth presennol, a dylunio rhaglenni cymorth yn y dyfodol, gan sicrhau bod llais busnes wrth wraidd strategaethau a phenderfyniadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Gwahoddir i fusnesau ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd rannu’r heriau a’r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu. Wedyn, defnyddir adborth o’r arolwg i lywio a chyflwyno rhaglenni o werth.
Dywedodd Nigel Griffiths, Cadeirydd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Bydd y mewnwelediad y bydd yr adborth hwn yn ei roi inni yn sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaethau ar waith sydd o werth gwirioneddol i’n cymunedau busnes ac yn ein helpu ni i gyd i fod y gorau y gallwn.”
Mae’r arolwg ar agor tan 5ed Gorffennaf