Rhaglen Metro Plus

Med 17, 2021

Ar ôl cael cymeradwyaeth ar 15fed Mawrth 2021 gan Gabinet CCR i ddiwygio’r rhaglen Metro Plus, mae chwech o’r deg cynllun a oedd i fod i gael eu cwblhau erbyn Mawrth 2023 wrthi’n cael eu bwrw ymlaen drwy’r camau dylunio a chyflenwi.

Mae cynllun parcio a theithio New Inn Pont-y-pŵl, Cyfnewidfa Porth a chynllun parcio a theithio Twnnel Hafren ar fin dechrau gweithredu ar ôl cwblhau camau olaf y gwaith o ddyfarnu’r contractau. Mae’r tri chynllun arall yn dal yn y cam dylunio a disgwylir iddynt ddechrau naill ai’n ddiweddarach yn y flwyddyn, neu’n gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae pedwar cynllun arall y deg cynllun gwreiddiol wrthi’n cael eu datblygu ymhellach i gael eu cyflenwi fel rhan o’u prosiectau adfywio ehangach er mwyn denu cyllid ehangach.

Darganfod mwy am y Rhaglen Metro Plus