Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

ARBED 3

Disgrifiad o’r prosiect

Cartrefi Clyd Arbed yw cynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi tanwydd mewn ardaloedd penodol. Mae ei brif bwyslais ar berfformiad effeithlonrwydd ynni cartrefi’r deiliaid tai hynny sy’n byw mewn tlodi tanwydd difrifol, sydd yn aml iawn yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru

Bydd y cynllun yn targedu ardaloedd â niferoedd uchel o gartrefi eiddo preifat nad ydynt wedi eu cysylltu â’r grid nwy neu sy’n anodd eu gwresogi.

Nod Arbed yw lleihau ôl troed carbon y stoc dai yng Nghymru ac wrth wneud hyn, helpu i ddarparu cydnerthedd cartrefi rhag costau ynni cynyddol.

Model Cyflawni

Cyflawnir hyn drwy Reolwr Cynllun unigol (contractwr) yn gweithio ar draws Cymru gyfan.

Bydd y rheolwr cynllun yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

  • Tlodi Tanwydd Difrifol
  • Ar sail Ardal
  • Cartrefi dan berchen feddiannaeth yn bennaf

Targedau penodol

  • Gwella perfformiad effeithlonrwydd ynni mewn 7000 o gartrefi yn ystod oes y prosiect
  • Lleihau allyriadau carbon y stoc dai yng Nghymru

Manylion cyswllt

Enw: Ian Griffith
E-bost: ian.griffith@wales.gov
Rhif ffôn: 0300 0625332
Cyfeiriad: Adeiladau’r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd