Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Sefydliad Awen

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw a phobl hŷn a’r diwydiannau creadigol ynghyd i gydgynhyrchu cynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer poblogaeth sy’n mynd yn gynyddol hŷn.

Caiff y Sefydliad ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a chaiff ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Model Cyflawni

Mae Sefydliad Awen wrthi’n datblygu ymchwil gyda’r diwydiannau creadigol, sy’n gwella ein dealltwriaeth o heneiddio a blynyddoedd hwyrach bywyd yng nghyd-destun tri maes ymchwil cyffredinol sy’n cydberthyn i’w gilydd:

  • Iechyd a Lles – profiadau, cynnyrch a gwasanaethau effeithiol yn y diwydiannau creadigol
  • Lle – dylunio lleoedd sy’n addas i bobl hŷn ac sy’n cynorthwyo pobl â dementia
  • Gwaith – atebion creadigol i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ymwneud â gweithio hyd at flynyddoedd hwyrach bywyd.

Mae Labordy Byw Sefydliad Awen yn cael ei ddatblygu er mwyn darparu cyfleuster ymchwil â ffocws masnachol. Mae’r Labordy Byw yn cynnwys lle hyblyg i ddatblygu cynnyrch mewn amryw amgylcheddau a efelychir. Mae hefyd yn cynnwys cyfleuster realiti rhithwir hyblyg a labordy ar ffurf caffi, er mwyn darparu lleoedd anffurfiol ar gyfer datblygu syniadau. Mae’r ganolfan hon yn cysylltu â changhennau rhanbarthol presennol (megis lleoedd creadigol ar gyfer y celfyddydau, ffilm, cerddoriaeth a pherfformio), lle gall ymchwilwyr ac arloeswyr gydweithio â phobl hŷn i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau, profiadau ac amgylcheddau newydd.

Mae canlyniadau ymchwil y Labordy Byw yn debygol o:

  • Hybu dealltwriaeth well o’r galw ymhlith defnyddwyr hŷn am gynnyrch, gwasanaethau a phrofiadau ar gyfer heneiddio heb golli iechyd a cholli’r gallu i wneud gweithgarwch corfforol.
  • Cael eu defnyddio er mwyn llenwi’r bwlch yn ein dealltwriaeth o’r farchnad defnyddwyr hŷn, a herio stereoteipiau negyddol ynghylch heneiddio.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol ledled ardal Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Targedau penodol

Mae’r dangosyddion sy’n gysylltiedig â busnes Sefydliad Awen yn cyd-fynd ag Amcan Strategol 1.1 Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac maent yn mynd i’r afael â Maes Ffocws A (datblygu capasiti ar gyfer ymchwil arbenigol).

Mae’r dangosyddion yn cynnwys:

  1. Nifer y cyfleusterau gwell sy’n rhan o’r seilwaith ymchwil
  2. Nifer yr ymchwilwyr newydd sydd mewn endidau a gefnogir
  3. Swm y cyllid ymchwil sydd wedi’i sicrhau
  4. Gwariant busnesau ar ymchwil a datblygu wedi’i sicrhau (incwm gan fusnesau ar gyfer ymchwil a datblygu)
  5. Nifer y busnesau sy’n cydweithio â sefydliadau ymchwil a gefnogir

Manylion cyswllt

Enw: Mark Callen
E-bost: m.c.allen@Swansea.ac.uk
Cyfeiriad: Sefydliad Awen, Adeilad Talbot, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Linked In: The Awen Institute

Instagram: awen_institute