Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Gwerthuso

Adolygiad Ffurfiannol BEACON+

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

BEACON+

Disgrifiad o’r prosiect

Arweinir menter BEACON gan Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bangor ac Abertawe. Mae’n dod ag arbenigedd a chyfleusterau at ei gilydd i gynorthwyo cwmnïau i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd neu i uwchraddio prosesau sydd eisoes yn bodoli, gan ddefnyddio technolegau carbon isel gan gynnwys biomas pan fo modd. Gyda chefnogaeth £8 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), nod BEACON yw sefydlu Cymru yn Ganolfan Ragoriaeth Bioburo a gwneud cyfraniadau hollbwysig at leihau newid yn yr hinsawdd a thyfu bioeconomi Cymru.

Ers mis Gorffennaf 2019, mae swm ychwanegol o £440,000 o gyllid yr UE wedi ehangu prosiect BEACON ledled Cymru, gan fynd i’r afael â heriau lleol penodol a chysylltu partneriaid newydd a gwneud defnydd llawn o adnoddau naturiol penodol i ranbarth.

Model Cyflawni

Prif nod BEACON yw defnyddio’r cysyniad o bioburo i weithio gyda chwmnïau a fyddai’n defnyddio’r broses i nodi ystod eang o gynhyrchion gan ddeunydd planhigion sydd wedi eu teilwra i’w gofynion.

Mae BEACON yn cynnig i fusnesau sydd â diddordeb yn y sector bioburo fynediad at y gwaith ymchwil, yr arbenigedd a’r gronfa wybodaeth sydd gan brifysgolion yng Nghymru. Nod BEACON yw cyfrannu at ddatblygiad ynni adnewyddadwy a bod o gymorth i symud tuag at economi carbon isel a’r amcan cyffredinol o leihau effaith newid hinsawdd, ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygu bioeconomi Cymru ddichonadwy drwy ehangu cadwyni cyflenwi gwyrdd.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i awdurdodau lleol ledled Cymru gyfan.

Manylion cyswllt

Enw: Melissa Mason
E-bost: mgm@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 01970 823042
Cyfeiriad: Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, Gogerddan, Ceredigion, SY23 3EB
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

LinkedIn: Dolen