Mae cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fynd o nerth i nerth ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer menter Cyfnewid / Trosglwyddo Gwybodaeth y flwyddyn yn 2021 yng ‘Ngwobrau THE’, a gydnabyddir yn eang fel Oscars y byd Addysg Uwch.
Mae Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yn gynllun unigryw sy’n dod ag adrannau Gwyddoniaeth Cyfrifiaduron ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth at ei gilydd ac mae wedi canolbwyntio ar wella sgiliau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru drwy gydol pandemig COVID-19.
Dyma astudiaeth achos wych o un o gyfranogwyr y rhaglen o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd: