Mae Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) yn brosiect gwerth £3.7m a fydd yn helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus yn Ne Cymru i gydweithio i ddatblygu atebion gwasanaeth rhanbarthol newydd i heriau presennol yr economi gylchol. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, mae prosiect CEIC yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, a fydd yn cyflwyno’r rhaglen yn eu rhanbarthau penodol.
Mae rhaglen CEIC ar gael i sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a bydd yn helpu arweinwyr a rheolwyr i ddatblygu atebion gwasanaeth newydd a sicrhau manteision economi gylchol i’w sefydliadau a’r rhanbarthau. Prif amcanion y rhaglen yw:
Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai, ymweliadau safle, dysgu gweithredol, dysgu cymheiriaid a chymorth arbenigol i alluogi rheolwyr i greu atebion cynnyrch neu wasanaeth newydd ar y cyd a’u rhoi ar waith gyda chefnogaeth. Bydd yn weithredol dros gyfnod o 10 mis a chaiff ei ariannu’n llawn ar gyfer sefydliadau/ endidau.
Mae’r prosiect yn gweithio ar draws ardaloedd rhaglenni Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru.
Sefydliadau/endidau’r sector cyhoeddus yng Ngorllewin Cymru, y Cymoedd a Dwyrain Cymru a sefydliadau trydydd sector penodol yn y rhanbarthau hyn lle maent yn gweithio gyda nodau’r sefydliadau/endidau dan sylw yn y sector cyhoeddus neu’n cyfrannu atynt.
Nifer y prosiectau sy’n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol – 1
Nifer y dulliau, prosesau neu adnoddau sy’n cael eu datblygu gyda chefnogaeth – 7
Nifer yr endidau sy’n cymryd rhan mewn prosiectau sy’n targedu gweinyddiaethau cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus – 16
Nifer y dulliau, gweithdrefnau ac adnoddau newydd a ddatblygwyd ac a ddosbarthwyd – 7