Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Gwerthuso

Computational Foundry
Inception Evaluation Report

Gwerthuso

Mid-term evaluation of the Computational Foundry

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Ffowndri Gyfrifiadurol

Disgrifiad o’r prosiect

Bydd y cyfleuster newydd gwyddorau cyfrifiadurol o safon fyd-eang, sy’n werth £31 miliwn, yn denu arbenigedd cyfrifiadurol a mathemategol. Bydd yn rhoi Abertawe yng nghanol  ecosystem ranbarthol ffyniannus o gwmnïau ymchwil a digidol drwy ddenu ymchwilwyr blaenllaw i Gymru.

Mae £17.1 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn cefnogi’r Ffowndri Gyfrifiadurol, a bydd yn arwain ymchwil ym maes gwyddorau cyfrifiadurol a mathemategol, gan wneud Cymru’n gyrchfan fyd-eang af gyfer gwyddonwyr cyfrifiadureg a phartneriaid diwydiannol.

Gweledigaeth y brifysgol yw datblygu cymuned arbennig o wyddonwyr cyfrifiadurol a mathemategol sy’n gweithio ar ymchwil trawsffurfiol sy’n hanfodol o ran adeiladu byd blaengar.

Model Cyflawni

Bydd gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn cyflawni rhaglen o weithgarwch drwy:

  1. Dylunio, cynllunio a chaffael seilwaith ymchwil o’r radd flaenaf i fod yn gartref i’r Ffowndri Gyfrifiadurol, tua 7,455m2 o ran maint.
  2. Adeiladu ac agor adeilad y Ffowndri Gyfrifiadurol.
  3. Dyrannu ymchwilwyr blaenllaw a gyflogir gan Brifysgol Abertawe ar hyn o bryd i gyflawni’r Ffowndri Gyfrifiadurol.
  4. Recriwtio 31 o ymchwilwyr blaenllaw yn fyd-eang i ehangu’r timau a’r rhaglenni ymchwil cyfredol.
  5. Dull penodol o ddatblygu gwaith ymchwil ag adnoddau priodol, a fydd yn sicrhau o leiaf £21.25 miliwn o incwm gan waith ymchwil erbyn 2023.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol yn rhanbarth y Gorllewin a’r Cymoedd.

Targedau penodol

Mae’r dangosyddion sy’n gysylltiedig â gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn cyd-fynd yn gywrain ag Amcan Penodol 1.1 o Raglen Weithredol ERDF (sef gwella llwyddiant y sefydliadau ymchwil yng Nghymru o ran denu cyllid ymchwil cystadleuol a phreifat) drwy sefydlu cyfleuster ymchwil a datblygu o safon fyd-eang  er mwyn cynyddu cyfran y rhanbarth o gyllid ymchwil cystadleuol a phreifat.

Nodwyd pum dangosydd:

  1. Nifer y cyfleusterau seilwaith ymchwilio sydd wedi eu gwella
  2. Nifer yr ymchwilwyr sy’n gweithio mewn cyfleusterau seilwaith ymchwilio wedi eu gwella
  3. Nifer y mentrau sy’n cydweithredu â sefydliadau ymchwil a gefnogir
  4. Swm y cyllid ymchwil a sicrhawyd
  5. Nifer yr ymchwilwyr newydd mewn endidau a gefnogir

Manylion cyswllt

Enw: Dr Sherryl Bellfield
E-bost: s.l.bellfield@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 602655
Cyfeiriad: Computational Foundry, Talbot Building, Swansea University, Singleton Park, SA2 8PP
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Alt Twitter: Dolen
YouTube: Dolen

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017

Mae gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol yn rhagori ar bob targed ar gyfer dangosyddion allbynnau ers diwedd mis Mehefin 2017.

Dangosydd 3 – Nifer y mentrau sy’n cydweithredu â sefydliadau ymchwil a gefnogir
Mae gweithrediad y Ffowndri Gyfrifiadurol wedi cydweithredu â 46 o fentrau o’i gymharu â chyfanswm targed o 40.

Dangosydd 4 – Swm cyllid ymchwil a sicrhawyd
Mae’r Ffowndri Gyfrifiadurol wedi sicrhau  £9.14 miliwn o’i gymharu â chyfanswm targed o £21.25 miliwn.

Dangosydd 5 – Nifer yr ymchwilwyr newydd mewn endidau a gefnogir
Mae’r Ffowndri Gyfrifiadurol wedi penodi 6 ymchwiliwr newydd o’i gymharu â chyfanswm targed o 31.