Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

CUBRIC ll (Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd ll)

Disgrifiad o’r prosiect

Nod Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC) yw bod yn un o’r canolfannau gorau yn Ewrop o ran delweddu’r ymennydd. Agorodd y CUBRIC newydd, sy’n costio £44 miliwn, ei drysau ar 7 Mawrth 2016 ac mae’n dwyn ynghyd yr arbenigedd mwyaf blaenllaw yn y byd o ran mapio’r ymennydd a’r diweddaraf ym maes delweddu ac ysgogi’r ymennydd. Mae gan y Ganolfan ran allweddol yn yr ymdrech fyd-eang i ddeall yn well yr hyn sy’n achosi cyflyrau niwrolegol a seiciatryddol megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, er mwyn canfod gwybodaeth allweddol i ddatblygu triniaethau gwell.

Dyfarnwyd £4,578,474 i brosiect CUBRIC gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2015, tuag at gostau codi’r adeilad. Mae’r cyllid yn ceisio cefnogi economi Cymru a helpu i ddenu rhagor o fuddsoddiad er mwyn gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran gwaith ymchwil ac arloesi sy’n torri tir newydd.

Model Cyflawni

Sefydlwyd Grŵp Llywio CUBRIC i oruchwylio a rheoli’r CUBRIC newydd, a chadeirir y grŵp gan Ddirprwy Is-ganghellor Coleg  y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Ar ôl adeiladu’r Ganolfan, cyfrifoldeb y Gyfarwyddiaeth CUBRIC fydd cyrraedd allbynnau a thargedau cysylltiedig ag ERDF, gyda chefnogaeth Rheolwr y Ganolfan CUBRIC.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i ranbarth Caerdydd

Targedau penodol

Dangosyddion allbwn

  • Swm y cyllid ymchwil a sicrhawyd – £29 miliwn
  • Nifer y cyfleusterau isadeiledd sydd wedi eu gwella – 1
  • Nifer yr ymchwilwyr yn y cyfleusterau isadeiledd sydd wedi eu gwella – 61
  • Nifer yr ymchwilwyr newydd yn yr endidau a gefnogir – 29

Manylion cyswllt

Enw: Clare Anderson
E-bost: Andersonc9@cardiff.ac.uk
Rhif ffôn: 029 2087 6912
Cyfeiriad: CUBRIC, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Gwefan: WordPress › Error
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,