Cyflymydd Arloesedd Data (DIA)
Disgrifiad o’r prosiect
Mae’r Cyflymydd Arloesedd Data (DIA) ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn nwyrain Cymru i ddefnyddio eu data’n well. Drwy lenwi bwlch yn yr ecosystem ddata bresennol yng Nghymru, mae’r Cyflymydd Arloesedd Data’n ceisio meithrin ymwybyddiaeth, capasiti a sgiliau gwyddor data yn systematig mewn BBaChau yng Nghymru. Rydym yn eu helpu i adnabod a gwireddu grym eu data a’i groesawu yn eu gweithgareddau yn y dyfodol. Rydym yn gweithio ar y cyd â chwmnïau i roi technegau gwyddor data ar waith i greu manteision pendant i’r busnes.
Model Cyflawni
Mae’r DIA yn meithrin ymwybyddiaeth, gallu a sgiliau gwyddor data mewn BBaChau. Bydd yn cynnal:
- ‘Gwiriadau iechyd arloesedd data’ i archwilio a dadansoddi proffil data cwmnïau, canfod cyfleoedd ar gyfer dadansoddi a thrin a thrafod data er budd y busnes
- Prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol gyda chwmnïau, i gyfrannu at dwf busnes trwy gefnogi gwaith datblygu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd.
Cwmpas daearyddol
Gall y DIA gefnogi BBaChau yn nwyrain Cymru (Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy, Powys, Wrecsam, Sir y Fflint).
Targedau penodol
- Nifer y mentrau a gefnogir i gyflwyno cynhyrchion newydd i’r farchnad
- Nifer y mentrau a gefnogir i gyflwyno marchnadoedd newydd i gynhyrchion y cwmni
- Cynnydd mewn cyflogaeth mewn mentrau a gynorthwyir
- Nifer y partneriaid sy’n cydweithio mewn prosiect ymchwil
- Nifer y mentrau sy’n derbyn cymorth anariannol
- Buddsoddiad preifat yn cyfateb i gymorth cyhoeddus mewn prosiectau arloesi neu ymchwil a datblygu
- Nifer y patentau a gofrestrir ar gyfer cynhyrchion
- Nifer y mentrau newydd a gefnogir
Manylion cyswllt
Enw: Catherine Roderick
E-bost: RoderickCH@cardiff.ac.uk
Rhif ffôn: 02920 876 233
Cyfeiriad: Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Prifysgol Caerdydd, Adeiladau’r Frenhines, 5 Y Parêd, Caerdydd, CF24 3AA
Gwefan:
Twitter: