Cynhadledd Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru 2021

Rha 17, 2021

Ar 17eg Tachwedd, cynhaliodd Learning & Work Cymru eu cynhadledd flynyddol ar blatfform Sligo.

Roedd yn fore diddorol gyda dwy brif araith. Amlinellodd y cyntaf, gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, uchelgais Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldeb economaidd, gwella canlyniadau’r farchnad lafur, a meithrin sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Ac roedd yr ail gan Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru. Cyflwynodd ‘Dyfodol Disglair’: gweledigaeth bum mlynedd strategol newydd ar gyfer Gyrfa Cymru ac esboniodd sut bydd yn creu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.

Yn dilyn hynny, cafwyd trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Rachel Nut Brown o Colegau Cymru yn edrych ar y newidiadau sydd arnom eu hangen ar gyfer dyfodol gwell i Gymru gyda chyfraniadau gan Naomi Clayton (L&W UK), Viv Buckley (Coleg Pen-y-bont ar Ogwr), David Hagendyk (L&W Cymru) a Wilnelia De Jesus (Enillydd Gwobr Ysbrydoli! 2021).

Gorffennodd y digwyddiad gyda dewis o ddau weithdy: un ar gryfhau’r fframwaith ymgysylltu a chynnydd ieuenctid ac un yn edrych ar ble mae marchnadoedd llafur yng Nghymru yn mynd wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo.

Mae technoleg ddigidol yn golygu, os nad oeddech chi’n gallu mynychu ym mis Tachwedd, y gallwch chi glywed y cyflwyniadau a’r gweithdai ar-lein o hyd ar wefan L&W Cymru.

Gweld yr holl gyflwyniadau a’r drafodaeth o gynhadledd L&W.