Diweddariad CCR – Rhagfyr 2021

Rha 17, 2021

Cronfa her

Mae tîm Cronfa Her CCR wedi parhau i gefnogi Her Traceostomi Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro sydd ar y gweill (dyfarnwyd contractau cam dau) gyda rhai canlyniadau rhagorol hyd yma.

Mae’r tîm wedi comisiynu’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth (KTN) i gefnogi edrych ar ddatrysiadau technoleg ar gyfer galluogi fflydoedd awdurdodau lleol heb allyriadau. Maent hefyd yn datblygu Her gydweithredol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi adfywio canol trefi yn y rhanbarth.

Daeth rownd gyllido Cais 2 i ben ar 1af Hydref, derbyniwyd wyth cais gyda chyfanswm y ceisiadau am gyllid o £10.6m.

Cysylltwch â ccrchallengefund@cardiff.ac.uk i gael gwybod mwy.

Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV)

Ym mis Medi, cymeradwyodd Cabinet CCR a’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol y datblygiadau diweddaraf wrth gyflwyno strategaeth ULEV unedig ar draws de ddwyrain Cymru – gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y seilwaith cerbydau allyriadau isel iawn newydd, gyda 34 o wefrwyr deuol 50kw mewn 31 o safleoedd ar gyfer defnydd gan dacsis i’w cwblhau erbyn diwedd eleni. Mewn gwirionedd, mae rhai o’r rhain wedi’u comisiynu eisoes ac yn bosibl eu defnyddio ar hyn o bryd! Ers diwedd y chwarter hwn, maent hefyd wedi lansio cynllun peilot tacsi gwyrdd ‘rhoi cynnig cyn prynu’ mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd yn Sioe Deithiol Ranbarthol De Ddwyrain Cludiant Glân Cop Cymru.

Rhaglen Meistri Seiber

Gyda chefnogaeth y CCR, cynigiwyd 15 lle wedi’u cyllido’n llawn ym mis Medi i fyfyrwyr MSc mewn Seiberddiogelwch a Thechnoleg ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22. Datblygwyd y rhaglen seiberddiogelwch uwch hon gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Pw. Fe’i sefydlwyd er mwyn paratoi gweithwyr proffesiynol seiberddiogelwch dosbarth uchel, parod ar gyfer cyflogaeth y mae sefydliadau ledled y byd yn chwilio amdanynt.

Mae’r cynllun yn hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth ar draws y llywodraeth, addysg uwch a diwydiant ac mae’r cyfranwyr blaenllaw yn y byd at ei fodelau dysgu arloesol yn helpu i greu enw da i Dde Ddwyrain Cymru fel y lle i recriwtio talent seiber sy’n barod ar gyfer y diwydiant – a’r lle i fusnesau seiberddiogelwch sefydlu ac ehangu.

FinTech

Roedd y CCR yn un o bartneriaid sefydlu Ffowndri FinTech (gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality ac Admiral Pioneer). Cefnogodd y rhaglen sbarduno busnesau 12 wythnos arloesol hon wyth cwmni ac arwain at: creu 12 rôl uwch newydd yng Nghymru; cyflogi 20 o bobl ar draws y rhaglen; a llinell codi arian o £9m. Enillodd dau o’r grŵp wobrau yng Ngwobrau Fintech Cymru. Ar hyn o bryd mae CRR yn gweithio gyda FinTech Cymru ar eu cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer datblygu FinTech yn y rhanbarth, gyda mwy o newyddion i ddod yn gynnar yn 2022.