EESW yn cyhoeddi cyllid newydd i gynnal prosiectau peilot yn 2022

Chw 28, 2022

Mae EESW yn falch o gyhoeddi ei lwyddiant yn derbyn £492,350 o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU i gynnal prosiectau peilot yn 2022.

Bydd y prosiectau’n cael eu cynnal mewn chwe awdurdod lleol o dan y flaenoriaeth Buddsoddi mewn Sgiliau, gan ganolbwyntio ar wybodaeth gyrfaoedd a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi STEM yn y dyfodol.

Bydd y prosiect Cysylltu Athrawon â Diwydiant yn cael ei weithredu yn rhanbarthau Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf a bydd yn creu cyfres o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at weithwyr addysgu proffesiynol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Bydd y digwyddiadau’n cyflwyno athrawon i gyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg ac yn eu gwneud yn ymwybodol o’r ystod o yrfaoedd arloesol a gwerth chweil sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth.

Bydd y Prosiect Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory yn rhoi cyfle i ysgolion alluogi i ddisgyblion ysgolion cynradd ym Mlynyddoedd 5 a 6 a disgyblion ysgolion uwchradd ym Mlynyddoedd 10 ac 11 gydweithio fel rhan o brosiect gweithgynhyrchu digidol. Bydd y prosiect yn gwella profiadau dysgu ar draws y cwricwlwm gyda ffocws ar gymhwysedd digidol, CAD, CAM a rheolaeth ddigidol. Bydd EESW yn darparu ac yn cyflwyno’r prosiect gyda chefnogaeth lawn i’r disgyblion a’r athrawon a fydd yn cymryd rhan. Bydd ysgolion o Ben-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Conwy a Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Dywedodd Rebecca Davies, Prif Weithredwr EESW:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn llwyddiannus yn y ceisiadau hyn o dan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a fydd yn galluogi i EESW dreialu cynlluniau newydd i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa lleol a rhoi sgiliau ychwanegol i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiectau’n arloesol ac yn ychwanegu gwerth at ein cyllid ESF presennol yn ogystal ag ymestyn ystod oedran y myfyrwyr sy’n cymryd rhan. Ceir cyfnod byr ar gyfer darparu gweithgarwch rhwng misoedd Ionawr a Mehefin 2022, felly rydym yn annog yr ysgolion sydd â diddordeb yn y rhanbarthau a ariennir i ymgysylltu cyn gynted â phosibl er mwyn cael y budd mwyaf posibl a byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod pob ysgol yn cael y cyfle am gefnogaeth.”

Mae EESW eisiau recriwtio unigolyn brwdfrydig i ymuno â’r tîm i gyflwyno’r prosiect ‘Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory’ yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a dylai unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb edrych ar tudalen swyddi gwag STEM Cymru.