ESF Blaenoriaeth 3: TechnoCamps

Rha 17, 2021

Modelau Rôl Benywaidd a TechnoCamps

Cydnabyddir yn eang bod merched yn cael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM, a nod TechnoCamps yw sicrhau gwell cydbwysedd. Maent yn cynnig clybiau a seminarau i ferched yn unig drwy eu rhaglen GiST Cymru. Cyflwynir pob gweithdy gan beirianwyr a gwyddonwyr benywaidd sy’n arddangos y cyfleoedd sy’n agored i Fenywod mewn STEM.

Mwy o wybodaeth am raglen GiST ar wefan TechnoCamps.

Mae eu rhaglen WiST yn rhwydwaith o fenywod sy’n gweithio mewn diwydiannau STEM ac sy’n gweithredu fel modelau rôl ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr. Mae TechnoCamps yn annog eu modelau rôl i gymryd rhan yn y prosiect ac maent yn cynnig cyfleoedd i unigolion, cwmnïau a sefydliadau eraill ymgysylltu â phobl ifanc drwy gefnogi’r gwaith maent yn ei wneud mewn ysgolion. Yn y modd hwn, mae’r prosiect yn gobeithio cyrraedd merched nad ydynt wedi ystyried STEM fel opsiwn o’r blaen a’u hannog tuag at yrfaoedd mewn STEM

Ymuno â rhwydwaith WiST ar LinkedIn

Un aelod allweddol o’n rhwydwaith modelau rôl yw Prif Swyddog Gweithredol Magnox Ltd a Llywydd y Sefydliad Niwclear, Gwen Parry-Jones OBE. Mae hi wedi cael ei chamgymryd yn aml am weithiwr ffreutur neu weinyddwr mewn uwch swyddi peirianneg ac wedi teimlo ei bod yn cael ei thangynrychioli mewn cyfarfodydd bwrdd. O ganlyniad, mae Gwen yn angerddol am gydraddoldeb a chynrychiolaeth gyfartal y rhywiau mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar y cyfryngau ac mewn cymdeithas.

Mae TechnoCamps yn cydweithredu â nifer o bartneriaid allanol i sicrhau bod cynllun GiST Cymru yn darparu amrywiaeth o ran cynnwys ac yn cynnig cyfle i gyfranogwyr brofi ac archwilio pynciau STEM mewn ffordd hwyliog a difyr gan gynnwys: Chwarae Teg, Nwy Prydain, British Airways, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Science Made Simple, ESTnet, GIG Cymru, ac NDEC.

Hyd yma, maent wedi croesawu mwy na 550 o ferched i’w digwyddiadau GiST, ac mae mwy na 120 o ferched yn y rhwydwaith WiST.

Os hoffech chi fod yn fodel rôl TechnoCamps, e-bostiwch comms@technocamps.com

Gweithdai STEM AM DDIM i ysgolion uwchradd

Mae gweithdai STEM a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol poblogaidd iawn TechnoCamps ar gyfer ysgolion yn cefnogi’r cwricwlwm digidol a gellir eu haddasu yn seiliedig ar anghenion eich ysgol. Mae’r gweithdai’n amrywio o ran hyd rhwng awr a hanner diwrnod. Mae pob gweithdy wedi’i gyllido’n llawn drwy gefnogaeth Llywodraeth Cymru ac yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgolion Abertawe, Bangor a Wrecsam a Phrifysgol De Cymru.

Mae rhai enghreifftiau o’r cyrsiau a gynigir yn cynnwys:

  • Datblygu Gwefannau gyda Dreamweaver
  • Datblygu Gemau gyda Gamemaker
  • Animeiddio gydag Adobe Animate
  • Boolean Algebra
  • Greenfoot
  • Python Maths
  • Catch the Crooks
  • Moeseg, Technoleg a’r Dyfodol
  • Cryptograffeg
  • Modelu Sombis
  • Iaith Cydosod
  • Meddwl Cyfrifiadurol
  • Bagloriaeth Cymru
  • Dyfeisiau Clyfar

Mwy o wybodaeth ac archebu gweithdai drwy wefan TechnoCamps.