
Mae’r Rhaglen Data Llwybr Cyflym/Graddedigion DA yn bartneriaeth rhwng busnesau blaenllaw o Gymru ac academyddion a arweinir gan Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, a wnaed yn bosibl diolch i gyllid rhannol a dderbyniwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Heddiw, mae busnesau sy’n gweithredu ym mhob sector ledled y byd wedi cydnabod yr angen am ddatgloi potensial data mawr a deallusrwydd artiffisial (DA). Nid yw Cymru a’r DU yn ehangach yn eithriad, gyda llawer o arbenigwyr yn tynnu sylw at y ffaith bod y galw am recriwtio yn llawer uwch na’r cyflenwad o unigolion sydd â’r sgiliau arbenigol penodol hynny.
Yn ei blwyddyn gyntaf, galluogodd y Rhaglen Data/DA 100% o’i graddedigion i sicrhau swyddi parhaol mewn gwyddoniaeth data a dadansoddeg, gyda’r mwyafrif yn aros yng Nghymru i gyflymu gallu busnesau mewn diwydiannau lluosog i ffrwyno pŵer data.
Bydd y grŵp eleni yn cynnwys 14 o raddedigion yn cymryd rhan yng ngwersyll pythefnos pwrpasol y Rhaglen cyn dechrau eu gyrfaoedd gyda rhai o frandiau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Admiral, Atradius, Empirysis, Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Hodge Bank, Opel Vauxhall Finance, Pepper Money ac sa.global.
Yn ogystal â chael mynediad at unigolion sy’n gallu defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf mewn DA a data yn eu cwmnïau, mae cyflogwyr partner hefyd yn elwa o gefnogaeth lawn tîm arbenigol y Rhaglen a’r rhwydwaith ehangach o fewn y diwydiant gwasanaethau ariannol a data.
Mae’r Rhaglen wedi cael ei chydnabod gan feirniaid Gwobrau Fintech Cymru, a gyflwynodd y wobr i Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru yn 2021 am y Rhaglen Academaidd Orau yn Cefnogi Cwmnïau FinTech a Gwasanaethau Ariannol.
Gan adeiladu ar ei llwyddiant, mae’r Rhaglen wedi’i hymestyn bellach i gwricwlwm deng mis i alluogi graddedigion i dreiddio’n ddyfnach yn nhimau’r cyflogwyr maent wedi’u paru â hwy.
Yn ogystal â dechrau eu gyrfaoedd gyda chyflogwyr blaenllaw, mae’r Rhaglen hefyd yn sicrhau bod ei graddedigion yn aros ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial, dadansoddi data, a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg, drwy ddiploma ôl-raddedig pwrpasol a ddarperir gan Brifysgol De Cymru.
Dywedodd Sandra Busby, Rheolwr Gyfarwyddwr Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru:
“Mae’r Rhaglen hon yn bodoli er mwyn sicrhau bod gan fusnesau o Gymru y gallu i fodloni’r galw digynsail rydyn ni’n ei weld heddiw. Drwy ddod â’n partneriaid sy’n gyflogwyr at ei gilydd gydag arbenigwyr academaidd o Brifysgol De Cymru, rydyn ni wedi gallu creu rhaglen sy’n ymateb i anghenion penodol cyflogwyr ac yn galluogi iddynt recriwtio o gronfa dalent o raddedigion STEM sydd wedi’u dewis yn arbennig. Mae’r ffaith na fydd y cyllid Ewropeaidd ar gael mwyach o 2023 ymlaen yn bryder. Ac fel arweinydd y Rhaglen, rydyn ni wrthi’n edrych ar opsiynau i ddiogelu a sicrhau bod yr adnodd amhrisiadwy hwn yn parhau i fod ar gael i fusnesau Cymru.”
I gymryd rhan, cysylltwch â Rheolwr y Rhaglen, Rowena Morgan rowena@wccf.uk neu ewch i www.buzzwales.com/graduate-programme/.