Problemau wrth hawlio ESI – maglau cyffredin

Med 17, 2021

Ychydig awgrymiadau ar sut i osgoi’r problemau mwyaf cyffredin sy’n gallu oedi taliadau!

  • Rhaid darparu trywyddau archwilio llawn a chyflawn cyn pen 12 diwrnod gwaith o gyflwyno hawliad er mwyn osgoi oedi â’r broses ddilysu a thalu. Bydd buddiolwyr sydd, drosodd a drosodd, yn methu â darparu trywyddau archwilio llawn yn mynd yn ôl at hawliadau chwarterol ac ni chaiff eu taliadau ond eu gwneud ar ôl i’r Tîm Monitro a Dilysu (MVT) gwblhau ei archwiliadau. Byddwch yn drefnus!
  • Cofiwch am y rheolau enwi wrth lanlwytho dogfennau er mwyn i staff MVT allu dod o hyd i’r dogfennau perthnasol yn hawdd. Mae hefyd yn bwysig lanlwytho dogfennau i’r ffolder adolygu perthnasol a gaiff ei enwi yn eich e-bost sampl gan MVT.
  • Mae MVT wrthi’n cau’r holl eitemau ‘anghymwys dro dro’ sydd heb gael sylw a gyflwynwyd pan oedd y pandemig yn ei anterth. Os na ellir darparu tystiolaeth ar gyfer eitemau sy’n dal i fod yn anghymwys dros dro, caiff y trafodion eu gwneud yn anghymwys yn barhaol.  Ni chaiff y broses anghymwys dros dro ond ei defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol yn awr.
  • Cynlluniwch ymlaen ar gyfer cau. Darparwch y dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer anghysonderau neu faterion sydd angen sylw er mwyn gallu eu cau cyn yr hawliad terfynol. Gall gadael hen broblemau ac anghysonderau i’r hawliad terfynol achosi problemau ac fe allent arwain at oedi cyn ichi gael taliad.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r perygl o dramgwyddo’r trefniadau caffael yn sgil gwneud addasiadau i’r contractau. Mae angen i’r addasiadau fod yn unol â rheoliad 72 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus (PCR), ac ni chaniateir i unrhyw gynnydd yn y pris fod yn fwy na 50% o werth gwreiddiol y contract.  Gallai cywiriadau fod yn weithredol ar gyfer unrhyw wariant dros y 150%.

Darllen Canllawiau Amodau COVID-19 WEFO am Gefnogaeth a Chwestiynau Cyffredin