Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

FLEXIS (Systemau Integredig Hyblyg)

Disgrifiad o’r prosiect

Mae FLEXIS yn weithrediad ymchwil gwerth £24 miliwn a’i bwrpas yw datblygu gallu ymchwilio systemau ynni yng Nghymru a fydd yn gwella ymhellach y gallu o’r radd flaenaf sydd eisoes yn bodoli ym mhrifysgolion Cymru. Er mwyn i’r DU gyflawni ei hymrwymiadau o ran y newid yn yr hinsawdd, bydd angen datblygu systemau ynni sy’n arwain at allu datgarboneiddio ein cyflenwad ynni, ac, ar yr un pryd, diogelu ei sicrwydd a’i fforddiadwyedd. Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â materion pwysig sy’n wynebu’r gymdeithas ar hyn o bryd, megis y newid yn yr hinsawdd, cynnydd mewn prisiau ynni, a thlodi tanwydd. Mae’r ymchwil wedi’i seilio ar bedair prif elfen:

  • Cynaliadwyedd
  • Sicrwydd y Cyflenwad Ynni
  • Materion Economaidd-gymdeithasol
  • Dangosydd Cymru ar sail Lleoliad

Model Cyflawni

Mae’r prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru, ac mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ac Arolwg Daearegol Prydain yn cymryd rhan hefyd. Mae partneriaid eraill yn cynnwys TATA Steel, Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar 18 o Becynnau Gwaith sy’n edrych ar ddatblygiadau cyffrous gan gynnwys dal carbon a storio hydrogen, gan roi ystyriaeth i elfennau economaidd a chymdeithasol yn barhaus. Nodwyd safle arddangos, a’i ganolfan yng Ngwaith Dur TATA ym Mhort Talbot.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf yn Ne-ddwyrain Cymru, a Gwynedd, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe hefyd.

Targedau penodol

  • Swm y cyllid ymchwilio a gafwyd – £26.012 miliwn
  • Mentrau sy’n cydweithredu â sefydliadau ymchwil a gefnogir – 50
  • Ymchwilwyr newydd mewn endidau a gefnogir – 86

Manylion cyswllt

Enw: Dr Aleksandra Koj
E-bost: kojA@Cardiff.ac.uk
Rhif ffôn: 029 2087 5753
Cyfeiriad: Canolfan Ymchwil Geoamgylcheddol, Prifysgol Caerdydd, Adeilad y Frenhines, Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Y cynnydd hyd at ddiwedd Awst 2019

Mae’r prosiect yn mynd rhagddo yn dda, gan ennill dros £20 miliwn mewn grantiau i Gymru, cyhoeddi 226 o bapurau gyda chapasiti ymchwil o 86 aelod o staff.

Trefnodd FLEXIS nifer o ddigwyddiadau llawn bri, a chymryd rhan ynddynt:

  • COP24 Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2018
  • Cymru â Charbon Net o Ddim 2040, Y Gymdeithas Frenhinol – Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • Ymweliadau proffil uchel o oedd yn cynnwys Gweinidog y Cabinet, David Lidington, a rheoleiddwyr y Llywodraeth megis OFGEM.
  • Llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, fel cyhoeddiad cyhoeddus ynghylch cydweithio’n strategol ar yr Ardal Arddangos.

Mae cyflawniadau nodedig eraill yn cynnwys dyfarnu swyddogaeth Cadeirydd Technolegau Datblygol yr Academi Frenhinol Peirianneg i’r Athro Richard Dinsdale yn ddiweddar, am ymchwil pellach i systemau Bio-electrogemegol.