Dyma nodyn atgoffa cyflym arall ar gyfer partneriaid prosiectau arweiniol i roi gwybod i dîm cyfathrebu WEFO am eich cyflawniadau, cerrig milltir, straeon am eich llwyddiannau a’ch cynlluniau ar gyfer cynnal digwyddiadau cau. Mae hyn er mwyn inni eich cynorthwyo i greu cymaint â phosibl o gyhoeddusrwydd drwy ein sianeli, ac er mwyn ystyried cynnwys y Gweinidogion.
O ran gweithdrefnau cau yn gyffredinol, dyma eich atgoffa bod canllawiau cau prosiectau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â hyn, cysylltwch a thrafodwch gyda’ch Swyddog Datblygu Prosiectau yn y lle cyntaf.