Mae’r gweithrediad hwn yn atal pobl rhag colli eu swyddi o ganlyniad i gyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, trwy gynnig ymyraethau cynnar, sy’n canolbwyntio ar waith, gan gynnwys ffisiotherapi, therapi seicolegol, a therapi galwedigaethol. Bydd y rhain yn helpu gweithwyr sydd ar gyfnod absenoldeb salwch hirdymor, neu sydd mewn perygl o fod, i barhau i weithio, neu i ddychwelyd i’r gwaith yn gynharach na fyddai’n bosibl heb yr ymyrraeth. Cyflwynir y prosiect gan Rhyl City Stratergy yn y gogledd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn y de.
Gweithredir y prosiect mewn ardaloedd dethol awdurdodau lleol yng Nghymru (gweler isod).
Cyflogedig neu’n hunangyflogedig, yn byw neu’n gweithio yn yr ardaloedd canlynol:
50% o’r cyfranogwyr yn gadael y prosiect naill ai mewn gwell sefyllfa o ran y farchnad lafur neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb.
Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt
Gogledd Cymru – Jo Bartlett-Jones (RCS) – 01745 336442
De Cymru – Paul Dunning (ABMU) – 01639 684569