Crëwyd Ysbrydoli i Weithio i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ac nad oes modd iddynt ailgysylltu ag addysg ffurfiol neu anffurfiol, hyfforddiant, gwirfoddoli neu gyflogaeth.
Bydd yr ymgyrch yn darparu cefnogaeth bwrpasol i helpu pobl ifanc:
Drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, nod yr ymgyrch yw ymgysylltu â phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n NEET, a’u cefnogi a’u galluogi i ennill amrywiaeth o sgiliau, cymwysterau a lleoliadau gwaith ystyrlon er mwyn magu hyder a chymhelliant i gael cyflogaeth gynaliadwy neu addysg bellach.
Mae’r prosiect yn gweithredu mewn ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru: Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.
Darpariaeth lleol
Mae gan yr ymgyrch 5 Buddiolwr ar y Cyd sy’n gweithio yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru a fydd yn ymgysylltu â phobl ifanc sydd yn NEET a’u cefnogi, hynny yw:
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyswllt: Deo Ritchie
E-bost: Deo.Ritchie@newport.gov.uk
Cyngor Dinas Caerdydd
Cyswllt: Hayley Beynon-Brown
E-bost: H.BeynonBrown@cardiff.gov.uk
Cyngor Sir Fynwy
Cyswllt: Louise Wilce
E-bost: louisewilce@monmouthshire.gov.uk
Cyngor Bro Morgannwg
Cyswllt: Mark Davies
E-bost: Inspire2achieve@valeofglamorgan.gov.uk
Llamau
Cyswllt: Sian Browne
E-bost: sian.brown@newport.gov.uk