Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gradd Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol

Disgrifiad o’r prosiect

Wedi’i arwain gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae’r Radd Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol yn rhoi cymwysterau lefel uwch i gyflogeion o fewn diwydiant Cymru, yn enwedig o fewn y sector gweithgynhyrchu uwch. Mae’n cefnogi cyflogeion i ddeall ac ymwneud â newid technolegol cyflym, gan helpu i yrru twf busnes. Mae’r rhaglenni hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru yn aros ar flaen y gystadleuaeth trwy nodi technolegau a phrosesau gweithgynhyrchu presennol a rhai sy’n dod i’r golwg sy’n gallu symud eich sefydliad ymlaen.

Mae’r Radd Meistr mewn Arloesedd Rhyngwladol yn cynnig lefel bellach o arbenigedd nag Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0: Cymru. Bydd yn grymuso rheolwyr i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn y farchnad a gynigir gan dechnolegau arloesol ac i nodi a gwireddu eu potensial masnachol.

Model Cyflawni

Waeth ble maent wedi’u lleoli yng Nghymru, a’u hamserlen wythnosol arferol i ryw raddau, mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion cyfranogwyr. Darperir y rhaglenni fesul adrannau bach, felly mae hyblygrwydd i drefnu’r gwaith astudio o amgylch ymrwymiadau eraill.

Bydd yr hyfforddiant yn seiliedig ar anghenion a diddordebau’r unigolyn, yn ogystal â rhai ei gyflogwr, gan gynnwys dysgu lefel uwch a fydd yn arwain at gymhwyster Gradd Meistr wedi’i ddyfarnu gan y Brifysgol. Yn yr un modd ag Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0: Cymru, bydd y dysgu yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb ac o bell trwy Rhith-amgylchedd Dysgu y Brifysgol.

Cwmpas daearyddol

Mae’r prosiect yn gweithredu ledled Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Cyflogeion o unrhyw fusnes mawr neu fach sy’n gweithredu o fewn unrhyw ardal awdurdod lleol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’n rhaid bod gan gyfranogwyr gymhwyster lefel 6 presennol neu radd fel isafswm gofyniad mynediad neu gyfwerth.

Targedau penodol

I hyfforddi 398 o gyfranogwyr dros gyfnod o bum mlynedd a chydweithio â60 o fentrau.

Manylion cyswllt

Enw: Alan Mumby
E-bost: made@uwtsd.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 481199
Cyfeiriad: Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Technium 1, Heol y Brenin, Abertawe, SA1 8PH

Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Cysylltu trwy Linked In – MADECymru