Cynhelir Busnes Cymru wyth sesiwn sy’n cynnwys siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwybodaeth, yn edrych ar effeithlonrwydd adnoddau ac ystyried sut allwn eich helpu chi i fynd ati i leihau eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Gellir lanlwytho pecynnau adnoddau pwnc ar gyfer bob sesiwn, fel eich bod chi’n gallu deall sut allwch gymryd camau cadarnhaol i ysgogi newid o fewn eich busnes.
Gall Busnes Cymru cynnig sesiynau cyngor un i un. Felly, os ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch â’r tîm i drefnu’ch sesiwn am ddim. Fel rhan o’r sesiynau hyn, bydd ymgynghorwyr arbenigol yn eich helpu i lunio’ch Uchelgais Werdd, a chymryd camau rhagweithiol at ddod yn fusnes sy’n fwy effeithlon o ran adnoddau.