Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Limitless

Disgrifiad o’r prosiect

Mae LIMITLESS yn rhaglen gymorth addysgol i fenywod yw hon, sydd â’r cylch gwaith o ddarparu cyfleoedd iddyn nhw wella eu rhagolygon gyrfa yn y farchnad lafur.

Yn ogystal ag uwchsgilio, nod LIMITLESS yw helpu’r rhai sy’n cymryd rhan:

  • i fagu mwy o hunanhyder a hunan-barch,
  • i ddechrau busnes/hunangyflogaeth,
  • i hyrwyddo menywod yn y gweithle – cynyddu lefel y menywod sy’n symud i swyddi Uwchreolwyr gan gynnwys swyddi’r Bwrdd,
  • cynyddu llythrennedd digidol,
  • cynyddu nifer y menywod sy’n gweithio ym meysydd gwaith annhraddodiadol a rhyw-benodol,
  • lleihau stereoteipio ar sail rhywedd

Mae tair elfen i’r prosiect:

Elfen 1 – Rhaglen WEB (Women Exploring Business)

Mae WEB wedi’i gynllunio i ysbrydoli menywod i sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae WEB yn cynnig cymorth pwrpasol, wedi’i ysgrifennu’n benodol gan Threshold ar gyfer menywod yn unig, wedi’i ategu gan ddau gymhwysedd Agored Cymru.

Elfen 2 – WISH (Women’s Integrated Support Hub)

Mae WISH yn cynnig pecynnau cymorth wedi’u teilwra’n unigol i feithrin hyder, hunan-barch a hunan-gymhelliant sydd, yn y pen draw, yn caniatáu i fenywod uwchsgilio.

Mae ystod o gyrsiau ar draws meysydd pwnc gwahanol yn agored i bob menyw waeth beth fo’i chefndir, ei hanghenion neu ei galluoedd. Fel rhywle lle gall menywod fynd i fanteisio ar gyfleoedd twf, mae WISH yn hyblyg, yn gyfannol ac yn ymateb i anghenion unigol ac yn cael ei gwblhau mewn partneriaeth â menywod – gan roi cyfle iddyn nhw fynd i’r afael â nodau a dyheadau yn ogystal â rhwystrau.

Elfen 3 – Dyfarniad (Cymhwyster) a Dyfarniad Estynedig mewn cefnogi’r sector cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy Wirfoddoli

Cymhwyster Lefel 2 (gyda Lefel 3 yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd) a gynlluniwyd i roi’r sgiliau sylfaenol i ddysgwyr gynnig cymorth diogel ac effeithiol i ymyrryd mewn sefyllfaoedd cymorth gan gynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r cymhwyster yn cydnabod ystod o rolau o fewn y sector cam-drin domestig.  Er bod sgiliau a gwybodaeth graidd sy’n gyffredinol, mae pob rôl yn dod ag anghenion arbenigol.  Bydd y cymhwyster yn helpu’r rhai sy’n wirfoddolwyr i feithrin sgiliau mewn ffordd hyblyg a hylaw, a fydd yn cynnwys dysgu ar-lein.  Bydd y Wobr a’r Wobr Estynedig yn cael eu hachredu gan Agored Cymru.

Cwmpas daearyddol

Mae’r Prosiect LIMITLESS yn agored i rai sy’n byw neu’n gweithio yn awdurdodau unedol:

  • Sir Gâr
  • Sir Benfro
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Rhaid i chi naill ai fod:

  • yn fenyw 18+ oed
  • yn byw neu weithio yn yr awdurdodau unedol canlynol: Sir Gâr, Sir Benfro, Caerffili a Blaenau Gwent (*gyda chyflwyno’r cymhwyster gwirfoddoli hefyd ar gael yn Nhorfaen).
  • mewn cyflogaeth (h.y., hunangyflogedig, rhan-amser/ llawn amser, ar gontractau dim oriau)

Targedau penodol

  • Menywod sy’n cyflawni cymwysterau a sefyllfa gwell yn y farchnad lafur
  • Menywod sy’n dilyn hyfforddiant entrepreneuriaeth

Manylion cyswllt

Enw: Tania Perkins
E-bost: tperkins@threshld-das.org.uk
Rhif ffôn: 01554 700650
Cyfeiriad: 2 - 14 Stryd Ioan, Llanelli, Sir Gâr, SA15 1UH
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Instagram – @ThresholdDAS

Blaenau Gwent a Chaerffili Debbie Williams

Swyddfa – 01554 700650

Symudol – 07496 267361

E-bost – dwilliams@threshold-das.org.uk

Sir Gâr a Sir Benfro

 

 

 

Torfaen (ynghylch Elfen 3)

Louise Daniells

Swyddfa – 01554 700650E

Symudol – 07496 267 358

E-bost – ldaniells@threshold-das.org.uk

 

Tania Perkins

tperkins@threshld-das.org.uk