Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

MAGMA (Deunyddiau Magnetig a Rhaglenni)

Disgrifiad o’r prosiect

Nod y prosiect hwn yw sefydlu gallu ymchwil o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd gydag arbenigedd cydnabyddedig ym maes prosesu, nodweddu, gweithgynhyrchu ac ailgylchu deunyddiau magnetig arbenigol. Mae gan Gymru sylfaen gref mewn rhaglenni a chadwyni cyflenwi a deunyddiau magnetig, sy’n dangos ‘Arbenigaeth Glyfar’ glir a thynfa ddiwydiannol yn y maes hwn. Mae’r gallu ymchwil presennol yng Nghaerdydd yn cwmpasu prosesu deunyddiau, gweithgynhyrchu a nodweddu, gyda chyfleusterau cyfyngedig ar gyfer profi moduron a pheiriannau mawr. Bydd MAGMA yn ychwanegu cynhwysedd ymchwil cyflenwol newydd ac yn adnewyddu labordai, gan gynnwys systemau dynamometr newydd ar gyfer profi moduron cerbydau trydan modern, a chyfrifiaduron, meddalwedd ac arbenigedd ar gyfer dylunio, efelychu a modelu magnetig.

Model Cyflawni

Bydd y Gweithrediad yn darparu gweithgareddau yn uniongyrchol yn rhanbarth Dwyrain Cymru drwy:

  1. i) ychwanegu pedwar aelod newydd o staff ymchwil (2 academydd; 2 ymchwilydd diwydiant ar secondiad) a rheolwr datblygu labordy i’r grŵp ymchwil, a
  2. ii) ailwampio ac ehangu’r cyfleusterau ymchwil a ddefnyddir gan y grŵp, gan fentro buddsoddi arian ychwanegol gan bartneriaid yn y diwydiant yn y broses.

Bydd hyn yn ailfywiogi’r amgylchedd ymchwil yng Nghaerdydd, drwy ddatblygu’r gallu i gael gafael ar gronfeydd y DU, Ewropeaidd a Rhyngwladol yn gystadleuol, gan gyflawni canlyniadau ymchwil sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i holl ardal rhaglen Dwyrain Cymru.

Targedau penodol

  • Swm y Cyllid Ymchwil a Sicrhawyd – 3.6 miliwn
  • Nifer y partneriaid sy’n cydweithio mewn prosiect ymchwil – 30
  • Nifer y cyfleusterau seilwaith ymchwil sydd wedi eu gwella – 1 (gan gynnwys 4  labordy ar wahân)
  • Nifer yr ymchwilwyr newydd sy’n gweithio mewn endidau a gynorthwyir – 12
  • Nifer yr ymchwilwyr sy’n gweithio mewn cyfleusterau seilwaith ymchwil sydd wedi eu gwella – 14

Manylion cyswllt

Enw: Kevin Jones
E-bost: Jonesk63@cardiff.ac.uk
Rhif ffôn: 02920 879292
Cyfeiriad: Yr Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd, Adeiladau'r Frenhines, 14-17 The Parade, Caerdydd, CF24 3AA

Cynnydd

Y cynnydd hyd at ddiwedd Awst 2019

Penodwyd rheolwr datblygu labordy sydd eisoes wedi dechrau ar ei swydd. Mae swyddi darlithydd wedi eu hysbysebu a chynhelir cyfweliadau cyn gynted â phosibl. Penodwyd rheolwr prosiect i ddechrau ym mis Hydref.

 
1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47,