Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A)

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn fenter gan Brifysgol Abertawe sy’n cynnig ymchwil ôl-raddedig o dan arweiniad diwydiant ym maes deunyddiau a gweithgynhyrchu. Ariennir y fenter yn llawn gan WEFO, EPSRC a’r diwydiant, a gall M2A gynnig 24 o leoliadau EngD ac 8 lleoliad ymchwil MSc, y flwyddyn. Nod y prosiect yw gwella sgiliau 165 o unigolion ym maes Deunyddiau a Gweithgynhyrchu, a’u galluogi i gefnogi diwydiant Cymru yn ei hymgais i fod yn arweinydd byd-eang ym maes technoleg.

Mae M2A yn cynnig cyfle i’r diwydiant gydweithio ar brosiectau ymchwil, gan gynnig dull hygyrch a fforddiadwy o gyfrannu at waith ymchwil y brifysgol. Bydd prosiectau EngD yn costio £9000 y flwyddyn a phrosiectau MSc yn costio £4,195 y flwyddyn.

Mae M2A yn cynnig lleoliadau doethuriaeth a gradd meistr ymchwil a ariennir yn llawn. Bydd hyn yn cynnwys ffioedd dysgu, costau prosiect a bwrsariaeth i dalu costau byw o £20,000 y flwyddyn ar gyfer lleoliadau Doethur a £12,500 y flwyddyn ar gyfer lleoliadau MSc.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ledled ardal rhaglen Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Nid oes unrhyw gyfyngiadau daearyddol ar brosiectau ymchwil a noddir gan y diwydiant.

Mae’n rhaid bod ymgeiswyr ymchwil yn byw yng Ngorllewin Cymru a rhanbarth y Cymoedd ar adeg cofrestru.

Targedau penodol

Bydd M2A yn hyfforddi o leiaf 165 o unigolion i lefel gradd meistr neu ddoethuriaeth ym maes peirianneg.

Manylion cyswllt

Enw: David Warren
E-bost: d.j.warren@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 606541
Cyfeiriad: Prifysgol Abertawe, Crymlyn Burrows, Abertawe, SA1 8EN
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter