Lansio hwb ‘Venture’ newydd

Med 17, 2021

Mae CCR wedi cyhoeddi lansio canolfan Sgiliau a Doniau newydd, a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion sgilio cyflogwyr a gweithwyr y dyfodol ledled De-ddwyrain Cymru.  A hithau â’r enw brand ‘Venture’, lansiwyd y fenter gyflogaeth a sgiliau newydd hon ar y 13eg o Fedi.

Mae’r ganolfan sgiliau newydd yn cynnwys Venture Graduate, sef cynllun recriwtio graddedigion sydd wedi’i ail-frandio, ei ailgynllunio a’i adfywio a ddarperir yn rhad ac am ddim i unrhyw sefydliad yn Ne-ddwyrain Cymru gan y tîm recriwtio arbenigol mewnol arbenigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Mae nodweddion newydd yn cynnwys cyflwyno model o garfan strwythuredig fydd yn weithredol fel 3 rhaglen wahanol drwy gydol y flwyddyn – y mae’r gyntaf ohonynt wedi agor i fusnesau ar y 13eg o Fedi.

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys Venture Specialist – casgliad o fentrau sgiliau hynod arbenigol y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eu cefnogi neu’u cyllido’n uniongyrchol.

Dywedodd Leigh Hughes, Cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol:

“Daw Venture â ‘siop popeth dan yr unto’ i fusnesau sy’n ceisio tyfu ac i bobl sy’n ceisio hyrwyddo’u gyrfaoedd yn y rhanbarth.  Rydym yn adeiladu ar lwyddiant ein cynllun graddedigion a’r gwasanaeth ardderchog y mae eisoes wedi’i ddarparu – ac yn awr rydym yn ceisio llunio cyfres ehangach o wasanaethau, sydd wedi’u creu’n unswydd bwrpasol ar gyfer union anghenion cyflogwyr a gweithwyr, yn cynnwys cyflwyno cyrsiau hyfforddi ac ystod o gymwysterau sy’n paru pobl a chyflogwyr yn y ffordd fwyaf effeithlon a buddiol, o brentisiaeth i lefelau uwch.

“Mewn llawer o ffyrdd, daw Venture â mwy o ffurf, strwythur a mireinio i’r hyn y gellir ei wneud mewn datblygu sgiliau, gwneud cynnydd mewn gyrfa, a chyflogadwyedd yn gyffredinol, er budd pawb.

Darganfyddwch fwy am Venture