Newyddion gan WEFO

Med 17, 2021

Yn rhaglenni cronfeydd strwythurol UE 2014-2020, rydym wedi buddsoddi dros £2.1 biliwn o’n dyraniad o’r Cronfeydd Strwythurol gan yr UE mewn prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol, gan fuddsoddi, at ei gilydd, dros £4 biliwn yng Nghymru, ac mae cronfeydd UE yn dal i ddarparu manteision i fusnesau, cymunedau a phobl Cymru, gyda’r ffigurau diweddaraf (ar ddiwedd Gorffennaf) yn dangos bod prosiectau UE a gynorthwywyd gan y rhaglenni cyfredol wedi creu dros 22,400 o swyddi a dros 4,260 o fusnesau newydd.  Hefyd, mae oddeutu 13,470 o fusnesau wedi cael eu cynorthwyo, cafodd dros 29,410 o bobl eu cynorthwyo i gael gwaith, a chafodd 125,270 o gymwysterau eu hennill.

I dynnu sylw at gyflawniadau ac effaith cynlluniau cyflogadwyedd yn y rhaglen gyfredol, bydd WEFO a’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol yn cynnal ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar ddiwedd y mis (W/D 20 Medi) i ddangos y perfformiad ardderchog ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, gan helpu Cymru i osod y sylfeini ar gyfer adferiad economaidd hirdymor ac ail-bwysleisio’r cyfleoedd sy’n dal ar gael i’r cyhoedd gael gafael ar y cynlluniau hyn.

Rydyn ni’n prysur nesáu at gyfnod cyflenwi olaf rhaglenni’r cronfeydd strwythurol yng Nghymru a bydd nifer o weithrediadau a phrosiectau yn cyrraedd cerrig milltir allweddol gyda’u prosiectau ac yn dechrau ystyried digwyddiadau cau. Yn y cam hwn, hoffem gymryd y cyfle i atgoffa partneriaid arweiniol prosiectau i hysbysu tîm cysylltiadau WEFO o’ch cyflawniadau, eich cerrig milltir, eich llwyddiannau a’ch cynlluniau ar gyfer digwyddiadau cau er mwyn inni eich helpu i roi’r cyhoeddusrwydd gorau drwy ein sianelau ac ystyried cyfranogaeth gan y Gweinidog.

O ran gweithdrefnau cau yn gyffredinol, hoffem eich atgoffa bod canllawiau cau prosiectau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Darllenwch y canllawiau ar gyfer cau prosiectau Cronfa Strwythurol

Darllenwch y canllawiau ar y gweithdrefnau cloi ar gyfer prosiectau cydweithrediad Iwerddon-Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â hyn, cysylltwch â Swyddog Datblygu eich Prosiect i drafod yn y lle cyntaf.

Mae epidemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar rai gweithrediadau a ariennir gan yr UE, er enghraifft, bu’n rhaid cwtogi ar yr arfer o gyflwyno gweithgareddau wyneb yn wyneb gyda chyfranogwyr ESF ac amharwyd ar nifer o weithgareddau cydweithredol mewn gweithrediadau Ymchwilio, Datblygu ac Arloesi. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod hyn wedi esgor ar ffyrdd arloesol newydd i weithrediadau gyflawni’r gweithgareddau hyn o bell/ar-lein.

Mae’n rhy fuan barnu ynglŷn ag effaith lawn Covid, er hynny mae WEFO wedi comisiynu adolygiad annibynnol o’r perfformiad dangosol yn ystod 2021 er mwyn helpu i ddylanwadu ar y cyflenwi i’r dyfodol ac i asesu a oes gofyn gwneud unrhyw addasiadau i raglenni.  Fel rhan o’r adolygiad hwn, efallai y bydd gwerthuswyr yn cysylltu ag arweinyddion prosiectau a hoffem eich annog i ymgysylltu a chyfranogi’n llawn yn y broses hon oherwydd fe fydd eich barn a’ch profiadau chi yn rhan bwysig o’r adolygiad a’i gasgliadau.