Crynodeb o newyddion y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol

Meh 25, 2021

Croeso i’n cylchlythyr ar ei newydd wedd!

Dyma ond yn un o’r newidiadau diweddar i’n cyfathrebiadau, gyda bwletin e-bost bob wythnos a thudalennau ychwanegol i’n gwefan ar gronfeydd newydd Llywodraeth y DU.  Mynegwch eich barn!

Roedd ein Wythnos Wybodaeth ym mis Mai yn llwyddiannus iawn, gyda dros XX o fynychwyr.  Y gweithdai a’r cyflwyniadau a gynhwyswyd oedd:

  • Diweddariad ar raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop 2014–2020
  • Ystyriaethau allweddol ar gyfer paratoi i ddod â phrosiect i ben
  • Diweddariad ar Barc Rhanbarthol y Cymoedd a gwaddol Tasglu’r Cymoedd
  • Trosolwg o brosiectau newydd Blaenoriaeth 5 Cronfa Gymdeithasol Ewrop: Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) a Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol (InFuSe)
  • Diweddariad ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol: Gweithdy Gwybodaeth ar y Sector Twf
  • Rhaglenni Cyllido Llywodraeth y DU yng Nghymru: y Gronfa Adfywio Cymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad

Roedd rhai digwyddiadau mor boblogaidd yr ydym eisoes wedi pennu’r dyddiad nesaf amdanynt – cadwch lygad am eich gwahoddiad i’n Hwythnos Wybodaeth nesaf ym mis Hydref.

Rydym wedi dweud ffarwel hoffus wrth Karyn Curtis, sydd wedi gadael y tîm ar gyfer swydd newydd gyffrous.  Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Karyn yn ei rôl newydd.

Mwynhewch yr haf!

Lisa, Amy a Natalie – Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru