Croeso i lythyr newyddion olaf 2022.
Bu’n gyfnod prysur arall i ni; cyflwynwyd nifer o sesiynau briffio, cynhaliwyd y rownd ddiweddaraf o gyfarfodydd rhwydweithio a daliwyd ati i ffilmio er mwyn sicrhau ein bod ni’n cofnodi effaith wirioneddol eich prosiectau ar draws y rhanbarth.
Diolch o galon i bawb a lanwodd ein holiadur rhanddeiliaid. Cawsom adborth ardderchog a fydd bellach yn ein helpu i gynllunio i ddarparu’r gwasanaeth y flwyddyn nesaf.
Mae’n flin gennym gyhoeddi y bydd Natalie Curtis yn gadael y tîm ar ddiwedd Rhagfyr. Bu Natalie yn aelod o TYRh De-ddwyrain Cymru o’r dechrau a byddwn yn ei cholli’n fawr. Rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â ni i ddymuno pob hwyl i Natalie â’i gyrfa yn y dyfodol.
Gyda dymuniadau gorau ar gyfer y Nadolig a 2023,
Lisa, Amy, Nat, Kate a Dylan