Croeso i’n cylchlythyr diweddaraf!
Mae’n bleser gennym groesawu Dylan Wictome i’r tîm fel ein Swyddog Cyllid a Gwybodaeth.
Bu Dylan eisoes yn helpu â rhywfaint o’r gwaith cyhoeddusrwydd y bu’r tîm yn canolbwyntio arno’r hydref hwn, gan gynnwys ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar y cyd sy’n tynnu sylw at y dewis eang o gymorth sgiliau a chyflogadwyedd sydd ar gael diolch i Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Cadwch olwg ar ein ffrwd Twitter yr wythnos hon.
Cofiwch fod gwybodaeth am brosiectau, gan gynnwys astudiaethau achos a dolenni defnyddiol, i’w cael ar ein wefan.
Rydyn ni wrthi’n brysur yn cynllunio ein Hwythnos Wybodaeth nesaf, gan gynnwys sesiwn ar gau prosiectau, a nawr bod y cyfyngiadau wedi llacio, byddwn yn mynd allan i gynhyrchu ffilm fer i ddangos sut mae’r RETs yn gweithio mewn partneriaeth ar draws Cymru.