Mae’r gwaith yn ymwneud â datblygu safle tir llwyd ar Stryd Wellington, Tresalem, Aberdâr. Fel rhan o ddatblygiad tybiannol o hyd at 1.9 hectar o dir y gellir ei ddatblygu, bydd unedau diwydiannol ysgafn modern yn cael eu creu. O ganlyniad, bydd parc busnes newydd yn cael ei greu gydag adeiladau newydd ar gyfer busnesau newydd. Bydd swyddi yn cael eu creu hefyd.
Lleolir y safle ym mhentref Tresalem ar gyrion canol tref Aberdâr, yn agos i’r orsaf reilffordd a’r orsaf fysiau. Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw perchennog y safle. Cliriwyd y safle a oedd yn arfer bod yn lein aros ychydig flynyddoedd yn ôl, ond mae wedi tyfu’n wyllt eto. Lleolir priffordd yr A4059 sy’n rhedeg ar hyd Cwm Cynon i orllewin y safle, ac mae’r ffordd hon yn cysylltu dwy gefnffordd sy’n bwysig i’r rhanbarth, sef yr A470 i’r de a’r A465 i’r gogledd.
Mae’r safle wedi’i leoli mewn parth llifogydd ac nid yw’n addas ar gyfer datblygiad preswyl. O ganlyniad, nodwyd y safle yn y Cynllun Datblygu Lleol fel safle sy’n addas ar gyfer datblygiad cyflogaeth. Fel rhan o Asesiad Annibynnol o’r Farchnad a gwblhawyd i gefnogi’r achos busnes, nodwyd bod yna gyflenwad cyfyngedig o unedau ar gyfer busnesau bach / busnesau newydd yn y Cyngor Bwrdeistref a’r Rhanbarth. Felly, mae 20 uned rhwng 1200 a 1800 troedfedd sgwâr wedi’u cynnig ar gyfer y safle.
Mae model cyflawni wedi caffael yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith, sy’n bodloni rheolau cymorth gwladwriaethol a chaffael cyhoeddus. Hefyd, mae’n sicrhau bod y broses yn deg ac yn arwain at ddatblygiad sy’n rhoi gwerth am arian.
Mae rheolwr prosiect cleientiaid allanol a chostau wedi’i benodi, ynghyd â thîm amlddisgyblaethol i reoli datblygiad y gwaith o RIBA Cam 1, datblygu’r cynllun, adeiladu a RIBA Cam 7. Mae caniatâd cynllunio statudol wedi’i sicrhau, a defnyddir y fframwaith SEWSCAP presennol i gaffael contractwr adeiladu.
Bydd y prosiect yn berthnasol i ardal Rhondda Cynon Taf yn unig.
Mae’r targedau allbwn uchod yn amodol ar adolygu/addasu ar ôl derbyn y dyluniadau terfynol.
Mae ymchwiliadau i’r safle wedi’u cwblhau, mae asesiad o ganlyniadau llifogydd ar waith, ac ni fydd modd cwblhau’r dyluniadau nes bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau.
Mae datblygiad y prosiect wedi’i gwblhau hyd at RIBA Cam 2, ac roedd yn canolbwyntio ar nodi holl gyfyngiadau’r safle, fel bod modd datblygu dyluniadau cysyniad. Mae’r rhain yn ystyried cyfyngiadau hysbys sy’n parhau i fod yn heriol oherwydd nifer a graddfa’r risgiau ar y safle. Cafwyd seibiant yng ngwaith y rhan fwyaf o’r tîm dylunio am gyfnod byr wrth aros am gasgliad y diwydrwydd dyladwy technegol. Wrth i’r dyluniad ddatblygu yn ystod RIBA Cam 3, bydd risgiau’n cael eu rheoli a chyfyngiadau eu nodi, er mwyn sicrhau cymaint o lety fforddiadwy â phosibl cyn cyflwyno’r cynlluniau. Nid yw maint, graddfa a chymysgedd meintiau unedau yn glir eto, gan nad yw holl gyfyngiadau’r safle wedi’u nodi eto ac nad yw caniatâd cynllunio wedi’i sicrhau. Mae dyluniadau cysyniad wedi’u llunio ac mae cais cynllunio i ddatblygu’r safle cyfan wedi’i gyflwyno i’w ystyried gan yr awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.