Menter ariannu SCoRE Cymru

Meh 30, 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £120,000 i gefnogi mwy o gydweithredu economaidd â rhanbarthau Baden Württemberg, Llydaw a Fflandrys.

Mae’r fenter yn agored i geisiadau gan bob sefydliad yng Nghymru, gyda phwyslais ar weithgarwch yn y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Mawrth 2023).

Mae’r manylion llawn ar gael ar-lein: https://llyw.cymru/ariannu-score-cymru

I gael rhagor o fanylion neu drafod cynnig, cysylltwch ag Uned Horizon Europe Llywodraeth Cymru drwy e-bostio HorizonEurope@gov.wales