Mae Sêr Cymru II yn rhaglen gwerth £56 miliwn, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd (UE) a sector Addysg Uwch Cymru. Mae’n ddatblygiad unigryw sy’n golygu bod cyllid Horizon 2020 yr UE yn gweithio ar y cyd â Chronfeydd Strwythurol yr UE i ddarparu rhaglen ddi-dor sy’n cynnwys:
Mae Sêr Cymru II yn gynllun gwobrwyo cystadleuol sydd ar gael i brifysgolion yng Nghymru. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau gyda’r cyllid cyfatebol gan sefydliad cynhaliol y cymrodor, ond y cymrodorion eu hunain sy’n llywio’r ceisiadau. Cynigir yr argymhellion ariannu drwy ddefnyddio dulliau sydd wedi’u profi ac sy’n seiliedig ar deilyngdod a gwneir penderfyniadau heb roi ystyriaeth i genedligrwydd, pwnc, oedran, seibiannau gyrfa, ac ati. Penodwyd y Panel Gwerthuso Annibynnol sy’n gwneud yr argymhellion hyn ar ein rhan drwy gystadleuaeth agored ac mae’n cynnwys arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol a chanddynt wybodaeth wyddonol eang a phrofiad o baneli cyllido. Cynorthwyir eu hasesiadau drwy ddefnyddio adolygiad gan gymheiriaid allanol, rhyngwladol.
Bydd y prosiect o fudd i Gaerdydd a Chasnewydd yn ne-ddwyrain Cymru, yn ogystal ag Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Abertawe a Wrecsam.
Targedau Sêr Cymru II yw:
Cynnydd hyd at ddiwedd mis Mehefin 2017
Hyd yn hyn rydym ni wedi cynnal tair rownd o Sêr Cymru II ac wedi cynnig 110 o ddyfarniadau (gweler y tabl). Mae cymrodorion o sefydliadau nodedig ledled y byd yn dechrau ar eu lleoliad ym mhrifysgolion Cymru (gweler y map isod). Mae’r cyfan wedi’u cynnwys mewn o leiaf un o’n meysydd arbenigedd craff, Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd, Gwyddorau Bywyd ac Iechyd, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch, a TGCh a’r Economi Ddigidol.
Cymrodoriaethau Marie Skłodowska-Curie Actions COFUND – 62
Cadeiryddion Ymchwil – 7
Sêr y Dyfodol – 7
Cymrodoriaethau ‘Cymru’ – 30
Ail-gipio dawn – 4