Bydd y gweithrediad yn darparu seilwaith sylfaenol (ar ffyrdd, draeniau a gwasanaethau cyfleustodau ar y safle ac oddi ar y safle) ac yn ymgymryd â’r gwaith o baratoi nifer cyfyngedig o safleoedd strategol, gan felly sicrhau bod gan Gymru rwydwaith o safleoedd o safon uchel sy’n barod i’w datblygu i danategu ymdrechion buddsoddi mewnol Cymru i ddenu prosiectau symudol, yn enwedig mewn sectorau â gwerth ychwanegol yn ogystal â busnesau cynhenid.
Mae’r nifer cyfyngedig o adnoddau sydd ar gael yn golygu y bydd y ffocws ar y safleoedd canlynol:
Safle 1 – Tŷ Du, Nelson, Caerffili
Safle 2 – Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr
Safle 3 – Bryn Cefni, Llangefni
Safle 4 – Dwyrain Cross Hands (Cyfnod 2)
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r seilwaith ffisegol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli’r gwaith o baratoi’r safle a’r gwaith seilwaith sylfaenol.
Mae’r gwaith o baratoi’r safle a gwaith seilwaith sylfaenol wedi’u dyfarnu i gontractwyr profiadol â chymwysterau addas yn dilyn proses dendro arferol Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei chytuno â Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Bydd y prosiect yn benodol i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerffili o fewn Rhanbarth y De-ddwyrain yn ogystal ag Ynys Môn a Sir Gaerfyrddin.
Dangosydd allbwn – Datblygu tir
Brocastle – 116 erw (gros)
Tŷ Du – 42 erw (gros)