Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Y Gwasanaeth Di-Waith – 25+ (Cymru Iach ar Waith) – Sylwch fod y prosiect yma nawr ar gau

Disgrifiad o’r prosiect

Mae’r Gwasanaeth Di-Waith yn rhaglen arbenigol sy’n gallu cefnogi 14,134 o bobl ledled Cymru hyd at fis Medi 2020. Mae’n cefnogi pobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau ac alcohol a/neu o salwch meddwl. Mae’r gwasanaeth ar gyfer pobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu’n economaidd anweithgar. Gall gefnogi cyflogwyr sy’n dymuno cynnig cyflogaeth neu gyfleoedd dysgu i gyfranogwyr.

Mae’r Gwasanaeth Di-Waith yn darparu gwasanaeth mentora gan gymheiriaid a chymorth cyflogaeth arbenigol. Mae hefyd yn cynnig cymorth pontio am hyd at dri mis i gyfranogwyr sy’n dod o hyd i waith.

Gwaith mentor cymheiriaid penodedig yw darparu cefnogaeth eirioli, helpu pobl i oresgyn problemau yn ymwneud â thai, rheoli arian, chwilio am swydd, cyfleoedd i wella eu haddysg, hyfforddiant, profiad ymarferol o waith neu waith gwirfoddol.

Cwmpas daearyddol

Gweithredir y prosiect ym mhob ardal ledled Cymru

Meini prawf cymhwyster hanfodol

Mae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod yn byw yng Nghymru ac yn rhan o un o’r grwp canlynol:

  • Cyfranogwyr 25 oed neu hŷn sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau a/neu broblemau iechyd meddwl ac sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor neu’n economaidd anweithgar (>12mis).

Targedau penodol

Disgwylir y bydd y gweithrediad hwn yn cefnogi o leiaf 14,134 o gyfranogwyr. Ei nod yw cyrraedd targed cyflogaeth o 15%. Bydd y Gwasanaeth Di-Waith yn mesur perfformiad y gweithrediad yn erbyn y dangosyddion a nodir gan Raglenni Gweithredol Cronfa Gymdeithasol Ewrop Cymru 2014-2020. Bydd hefyd yn ei fesur yn erbyn dangosyddion sy’n benodol i’r Gwasanaeth Di-Waith ac sy’n cael eu llywio gan argymhellion a nodwyd yng ngwerthusiad yr Yr Uned Rheoli Cynlluniau – Rhaglen Rheoli Project 2009-2014.

Manylion cyswllt

Enw: Gez Martin, Rheolwr Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Gwasanaeth Di-Waith
E-bost: outofworkservice-peer@wales.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 03000 25 5000
Cyfeiriad: Llawr Cyntaf, Adain y Gogledd, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tydfil, CF48 1UZ
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Ardal ddarpariaeth yr awdurdodau lleol ac enw cyswllt

Gofal (mewn partneriaeth â New Link) yn darparu yn ardaloedd Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf.
Ffôn: 01443 845975
Gwefan: Dolen
Gwefan New Link: Dolen
Facebook: Dolen

Cyfle Cymru (Consortiwm CAIS) yn darparu yng ngweddill Cymru.
Ffôn: 01633 258 489
Gwefan: Dolen
Facebook: Dolen