Yr Her o Ran Sgiliau er Mwyn Cyrraedd Sero Net

Med 29, 2022

Bydd y daith at Sero Net yn gofyn am ddatblygiadau gwyddonol, technolegol a diwylliannol mawr, ond un o’r ffactorau mwyaf fydd sicrhau bod gan y gweithlu’r sgiliau i gyflawni’r gwaith pontio. Mae’r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu a’r prosiect Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu (METaL) ym Mhrifysgol Abertawe eisoes wedi bod yn cymryd camau i wella sgiliau unigolion/rhoi sgiliau newydd i unigolion er mwyn datgarboneiddio, drwy ymchwil ôl-raddedig a dysgu’n seiliedig ar waith. Mae cydweithredu rhwng y ddau brosiect wedi sicrhau datblygiad clir o ran sgiliau, o’r ymgysylltu cychwynnol ar lefel 4 hyd at gymwysterau ar lefel doethuriaeth. Mae’r ymchwil a’r hyfforddiant a gynigir yn darparu atebion technegol ac unigolion medrus iawn sy’n ymuno â diwydiant i arwain y gwaith pontio.

Mae’r gwaith o wella sgiliau’n parhau i ddigwydd drwy ystod o fodiwlau o’r prosiect METaL a ariennir gan WEFO, sydd wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau yng Nghymru i gyflawni eu nodau amgylcheddol a symud tuag at Sero Net. Mae’r modiwlau hyn ar gael i fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac maent yn rhad ac am ddim ar hyn o bryd.

Cael gwybod mwy am y modiwl hyfforddiant Deunyddiau ar gyfer Ynni.

Bwriad y modiwl Cyflwyniad i Economi Gylchol yw esbonio cysyniadau allweddol ac athroniaeth sylfaenol economi gylchol, a’i manteision i ddiwydiant, ac esbonio syniadau ymarferol y gall busnesau eu defnyddio er mwyn ymgorffori’r cysyniadau hyn yn eu gweithrediadau.

Cael gwybod mwy am y modiwl hyfforddiant Economi Gylchol.

Mae’r modiwl Effaith Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am ddeddfwriaeth amgylcheddol, effeithiau trethi amgylcheddol a sut mae cael caniatâd amgylcheddol.

Cael gwybod mwy am y modwl hyfforddiant Effaith Amgylcheddol a Chynaliadwyedd.

Bydd y modiwl Cyflwyniad i Gerbydau Trydan yn cael ei lansio cyn bo hir ac, fel y mae’r enw yn awgrymu, bydd yn canolbwyntio ar gludiant amgen yn lle cludiant traddodiadol sy’n llosgi tanwydd ffosil. Bydd gwybodaeth am egwyddorion motorau tanio a’u hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael ei rhannu yn ogystal â gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf tuag at gerbydau modur sy’n niwtral o ran carbon.

Cael gwybod mwy am y modiwl hyfforddiant Cyflwyniad i Gerbydau Trydan.

Mae diwydiant yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau ein hôl troed carbon, ac un her fawr yw datgarboneiddio’r diwydiant dur. Mae modiwl wedi’i ddatblygu ynghylch dulliau gwyrdd o weithgynhyrchu dur, ac mae’n amlinellu’r cyfleoedd a gynigir gan y gwaith pontio.

Cael gwybod mwy am y modiwl Dulliau Gwyrdd o Weithgynhyrchu Dur.

Bydd gweithgynhyrchu’n hanfodol er mwyn cyflawni’r datblygiadau sy’n ofynnol o ran seilwaith, a’r her i’r sector hwnnw fydd recriwtio unigolion medrus yn ogystal â datblygu deunyddiau a phrosesau newydd ar gyfer pethau megis yr Economi Hydrogen. Bydd angen ffocws newydd hyd yn oed ar dechnegau gweithgynhyrchu traddodiadol megis weldio, oherwydd y risg uwch o fethu yn yr amgylcheddau hyn. Mae dealltwriaeth sylfaenol o’r broses yn dal i gael ei chyflwyno drwy’r modiwl Arc-weldio.

Cael gwybod mwy am y modiwl Arc-weldio.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i gofrestru ar y cyrsiau hyn; maent wedi’u hachredu gan Brifysgol Abertawe, ac ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus bydd myfyrwyr yn cael tystysgrif a 10 credyd prifysgol.

Er y ddarpariaeth gychwynnol hon, megis dechrau y mae’r gwaith o ddatblygu ‘sgiliau gwyrdd’ a bydd y broses o gyflwyno sgiliau’n gofyn am ymdrech gydweithredol, o ymgysylltu ag ysgolion i ddarparu addysg bellach ac addysg uwch. Yn dilyn llwyddiant y gwaith cychwynnol, mae cynnig yn cael ei ddatblygu’n awr er mwyn ehangu’r ddarpariaeth i gyflwyno ‘Sgiliau SWITCH-On’: esgaladur sgiliau aml-lefel i gyflawni gofynion Sero Net.

Yn ogystal â datblygu cyrsiau, mae sianel prosiect METaL ar YouTube yn cael ei diweddaru’n rheolaidd â chynnwys newydd y mae llawer ohono’n canolbwyntio ar sero net a materion amgylcheddol.

Tanysgrifio i sianel METaL ar YouTube.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefannau’r prosiectau: https://materials-academy.co.uk/cy/home-cymraeg/  www.project-metal.co.uk/cy.