Mae’r prosiect Specific yn 10 oed!

Meh 25, 2021

Mae Specific yn dathlu deng mlynedd o ddatblygu technoleg ynni: o ymchwil i adeiladau

Ym mis Ebrill deng mlynedd yn ôl, daethant â phartneriaid academaidd a diwydiant ynghyd a oedd ag arbenigedd mewn ffotofolteg brintiedig, dulliau storio trydanol, dulliau storio thermol a haenau diwydiannol; cawsant eu huno o dan weledigaeth a rennir ar gyfer cysyniad a elwid bryd hynny yn ‘Adeiladau fel Gorsafoedd Pŵer’.

Maent wedi datblygu llawer ers hynny!

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddant yn edrych nôl ar eu cyflawniadau dros y deng mlynedd diwethaf ac yn edrych ymlaen at yr hyn sydd angen ei wneud dros y deng mlynedd nesaf, gan ganolbwyntio ar bedair thema. I gael rhagor o fanylion am y themâu a sut i ymuno â’r dathliadau:

Darllenwch flog penblwydd Specific yn 10 oed