Trafodwyd cronfeydd y DU yn y Senedd

Meh 25, 2021

Trafodwyd dwy gronfa Llywodraeth y DU, sef Cronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddod, yn y Senedd ar 15 Mehefin.

Amlinellwyd safbwynt Llywodraeth Cymru gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, a ddisgrifiodd y cronfeydd arfaethedig fel ‘wedi’u cynllunio’n glir … i eithrio Llywodraeth Cymru’, gan nodi ‘y bydd gan Gymru lai o lais dros lai o arian’.

Dilynwyd cyfraniadau gan Paul Davies AS, Luke Fletcher AS, Alun Davies AS, Sam Rowlands AS, Delyth Jewell AS, Vikki Howells AS, Peter Fox AS, Hefin David AS a Carolyn Thomas AS.

Darganfyddwch fwy am safbwynt Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Fel arall, mae trawsgrifiad o’r ddadl ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar wefan Senedd Cymru. Mae recordiad fideo o’r ddadl hefyd ar gael ar blatfform Senedd.tv o 4 munud ymlaen.

Yn dilyn y ddadl, cefnogwyd cynnig Llywodraeth Cymru, a gododd nifer o bryderon ynghylch trefniadau Llywodraeth y DU ar gyfer y cronfeydd hyn, gan y Senedd.  O ganlyniad, mae’r Senedd:

  1. Yn cytuno nad yw ymateb Llywodraeth y DU i Gronfa Codi’r Gwastad a chyllid olynol yr UE yn ehangach yn gwarantu na fydd Cymru yn derbyn yr un geiniog yn llai a’i fod yn ymosodiad amlwg ar ddatganoli yng Nghymru.
  2. Yn cytuno bod peilot Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU ar gyfer 2021-22 yn cynrychioli toriad cyllid sylweddol i Gymru oherwydd byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn o leiaf £375m y flwyddyn ar ffurf cronfeydd strwythurol yr UE.
  3. Yn credu bod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â’r meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn yn anghyson â’r dull o ymdrin â chyllid a ddarparwyd gan yr UE yn flaenorol a oedd yn seiliedig ar angen.
  4. Yn galw am dryloywder gan Lywodraeth y DU ar y meini prawf blaenoriaethu ar gyfer y cronfeydd hyn er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ardal yng Nghymru yn colli allan ar gyllid.
  5. Yn nodi bod y toriad hwn yn y cyllid sydd ar gael yn fygythiad i swyddi a gwasanaethau yng Nghymru.
  6. Yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer cyflawni a fynegwyd yn y dystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig mewn perthynas â chynigion Llywodraeth y DU.
  7. Yn nodi disgrifiad y Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol y DU annibynnol o gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Codi’r Gwastad fel ‘centrally controlled funding pots thinly spread across a range of initiatives’.
  8. Yn cytuno nad yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nac ennill mandad i dorri cronfeydd olynol yr UE i Gymru na thanseilio’n unochrog ddatganoli yng Nghymru.
  9. Yn credu y dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru a bod rhaid i Lywodraeth y DU roi’r gorau i ddefnyddio Deddf y Farchnad Fewnol yn y fath fodd ag sy’n golygu bod llai o lais gan Gymru.
  10. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod gerbron y Senedd asesiad effaith sy’n dangos effaith y trefniadau ariannu hyn ar ddosbarthu cyllid ledled Cymru a gwneud penderfyniadau datganoledig yng Nghymru.

Yn hwyrach yn y flwyddyn, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi ei fframwaith ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a fydd yn nodi sut y rhoddir cronfeydd olynol cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewrop. Disgwylir i broffil gwariant y Gronfa Ffyniant Gyffredin gael ei gyhoeddi fel rhan o adolygiad o wariant Llywodraeth y DU yn yr hydref.