Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Astudiaethau Achos

Map o Barc Rhanbarthol y Cymoedd

Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Disgrifiad o’r prosiect

Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn gydweithrediad rhwng 13 o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus ledled de Cymru.

Gan ddefnyddio dull Cymoedd cyfan o weithredu, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd (PRhC) yma i gysylltu pobl a lleoedd, gan ddod ag iechyd y tir, y bobl a’r economi at ei gilydd ym mhopeth rydym yn ei wneud.

  • Mae tirwedd y Cymoedd yn cael ei chydnabod am ei hansawdd drwy ymrwymiad rhanbarthol i hyrwyddo a rheoli wedi’u cydlynu
  • Mae pobl yn cael eu hailgysylltu â thirwedd y Cymoedd er eu lles, fel ei bod yn dod yn lle ar gyfer ymarfer corff, gwaith, ymlacio a natur, yn ogystal ag ar gyfer y celfyddydau a threftadaeth, ac ar gyfer addysg.
  • Mae tirwedd y Cymoedd yn sail i economi leol gadarn, gan gefnogi busnesau, menter gymunedol a datblygu sgiliau a dysgu

Bydd y prosiect yn gwneud y canlynol:

  • Datblygu cynigion ar gyfer y model llywodraethu, ariannu a gweithredu hirdymor ar gyfer rheoli tirwedd y Cymoedd yn rhanbarthol gan gynnwys ystyried dynodiad tir ar gyfer y Cymoedd
  • Cefnogi dull rhanbarthol o ddefnyddio presgripsiwn cymdeithasol a darparu gweithgareddau lles
  • Edrych ar opsiynau a datblygu rhwydweithio rhanbarthol priodol rhwng cymheiriaid i gefnogi datblygiad asedau tirwedd a threftadaeth a arweinir gan y gymuned
  • Prosiectau peilot sy’n ymwneud â mannau gwyrdd y gellir eu hefelychu ar sail ranbarthol
  • Adnabod a rhannu arfer gorau mewn perthynas â gweithgarwch sy’n seiliedig ar dirwedd.

Cwmpas daearyddol

Mae PRhC yn cwmpasu ardal Cymoedd De Cymru i gyd sy’n ymestyn o Dorfaen yn y dwyrain i Gymoedd Aman a Gwendraeth yn y gorllewin. Dyma’r ardal rhwng yr M4 a Bannau Brycheiniog sy’n cwmpasu 13 o awdurdodau lleol: y rhai yn y Brifddinas-Ranbarth a hefyd CBS Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Abertawe a Chyngor Sir Gaerfyrddin.

Manylion cyswllt

Enw: Phil Lewis
E-bost: Phil.Lewis@Bridgend.gov.uk
Rhif ffôn: 07870 402491
Cyfeiriad: CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Raven’s Court, Pen-y-bont ar Ogwr
Gwefan: Website
Facebook: Facebook
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Instagram LovetheValleys

Cynnydd

Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud er gwaethaf effaith fawr COVID ar y Pyrth Darganfod, partneriaid awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd a’n gallu i ymgysylltu â grwpiau cymunedol. Mae’r cynnydd hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Lansio gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol PRhC;
  • Cynnal arolwg rhanbarthol o fannau gwyrdd gyda mwy na 400 o ymatebwyr;
  • Cwblhau nifer sylweddol o brosiectau cyfalaf ar safleoedd y Pyrth Darganfod a symud ymlaen tuag at gwblhau’r prosiectau sy’n weddill;
  • Sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer datblygu 2 orsaf waith beilot o bell ar safleoedd y Pyrth Darganfod;
  • 16 o brosiectau cymunedol ar y gweill, neu’n cael eu datblygu, ar draws 7 ardal awdurdod lleol;
  • Ychwanegu Llyn Llech Owain fel safle Porth Darganfod yn Sir Gaerfyrddin
  • Gweithio gyda phartneriaid, cwblhau cynlluniau busnes cadarn ar gyfer cyllid hyd at fis Mehefin 2023
  • Penodi OB3 Research yn bartneriaid gwerthuso PRhC.