Wcráin – Dogfen gyfathrebu WEFO i fuddiolwyr

Ebr 28, 2022

Bwriad y ddogfen gyfathrebu hon yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fuddiolwyr WEFO am y cyllid a allai fod ar gael gan yr UE i gefnogi Wcreiniaid sy’n cyrraedd Cymru.

Pa hyblygrwydd y mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi’i roi ar waith i gefnogi’r rhai sy’n ffoi o Wcráin?

Ar 8 Mawrth 2022, mabwysiadodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion ar gyfer Cohesion’s Action for Refugees in Europe (CARE) gan ganiatáu i aelod-wladwriaethau a rhanbarthau ddarparu cymorth brys i’r rhai sy’n ffoi rhag ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Darllenwch y cynigion ar gyfer Cohesion’s Action for Refugees in Europe

Dim ond i aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd y mae llawer o’r cymorth a’r cyllid ychwanegol hwn yn berthnasol. Fodd bynnag, mae mwy o hyblygrwydd hefyd i ddefnyddio adnoddau o Raglenni Cronfeydd Strwythurol 2014-20 i ddarparu cymorth, ac mae’r hyblygrwydd hwn wedi cael ei ymestyn i’r DU.

Pa gymorth sydd ar gael gan Gronfeydd Strwythurol yr UE i gefnogi Wcreiniaid sy’n cyrraedd Cymru?

Gallai’r rhai sy’n cyrraedd Cymru fod yn gymwys i fanteisio ar ystod eang o brosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru. Mae’r prosiectau’n darparu ystod eang o gymorth sy’n helpu unigolion sy’n agored i niwed i oresgyn rhwystrau personol i wella eu rhagolygon cyflogaeth, gan gynnwys:

  • Cymorth i helpu unigolion di-waith neu economaidd anweithgar i gael gwaith, megis gofal plant a mentora
  • Cymorth gyda sgiliau, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig
  • Cymorth penodol i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu sydd mewn perygl o fod yn NEET.

I bobl sy’n cyrraedd o Wcráin, efallai y bydd y prosiectau’n gallu darparu cymorth ychwanegol mewn perthynas ag iaith a throsglwyddo cymwysterau rhyngwladol i’r DU ac anogir buddiolwyr i drafod hyn gyda’u Swyddog Datblygu Prosiect, yn y lle cyntaf, os nad yw eisoes wedi’i gynnwys yn eu cynlluniau busnes.

Gall Busnes Cymru hefyd ddarparu cymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), drwy roi cyngor a chymorth i unigolion sy’n ystyried hunangyflogaeth a darparu cymorth fel cyfieithwyr i’w helpu i gymryd rhan a dysgu. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru, dan arweiniad Cwmpas (Canolfan Cydweithredol Cymru), ynghyd â’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol, dan arweiniad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), ill dau yn rhan sylweddol o ymateb enfawr y sector gwirfoddol yng Nghymru i’r argyfwng. Gall y ddau roi cyngor a chymorth i unigolion sy’n ystyried sefydlu menter gymdeithasol a darparu cymorth fel cyfieithwyr i’w helpu i gymryd rhan a dysgu.

Cefnogaeth a ddarperir gan Busnes Cymru

Cefnogaeth a ddarperir gan Busnes Cymdeithasol Cymru

Cefnogaeth a ddarperir gan y Gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol

Mae Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru eisoes wedi’u hymrwymo’n llawn sy’n golygu bod cyfyngiadau ar hyn o bryd o ran darparu rhaglenni. Fodd bynnag, mae WEFO yn dal i ystyried yn ofalus pa opsiynau sydd ar gael i sicrhau’r cymorth mwyaf posibl ac mae nifer o brosiectau eisoes o fewn y portffolio presennol, a all gefnogi’r bobl sy’n cyrraedd Cymru ac sydd eisoes yn galluogi rhywfaint o’r cymorth a ragwelir gan CARE.

A fydd unrhyw broblemau o ran cymhwysedd ar gyfer Wcreiniaid sy’n cyrraedd Cymru ac sydd am geisio cymorth gan Raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE?

Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu’r cynlluniau canlynol i helpu gwladolion o Wcráin a’u teulu agos:

  • Y Cynllun Cartrefi i Wcráin – cynllun sy’n galluogi gwladolion o Wcráin ac aelodau o’u teulu i ddod i’r DU os oes ganddynt noddwr a enwir a all ddarparu llety.
  • Y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin – o 3 Mai 2022, bydd gwladolion o Wcráin a oedd wedi cael caniatâd i aros yn y DU ar neu cyn 18 Mawrth 2022, ynghyd â’u partneriaid a’u plant (dibynyddion sydd eisoes yn y DU) yn gallu gwneud cais i’r cynllun, er mwyn ymestyn eu harhosiad. Mae’r cynllun hefyd ar agor i’r rhai a oedd wedi cael caniatâd i aros yn y DU yn y gorffennol ac mae’r caniatâd hwnnw wedi dod i ben ers 1 Ionawr 2022.

Mae rhagor o fanylion am yr holl gynlluniau uchod ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Atodiad Wcráin i Reolau Mewnfudo’r DU.

Pan fo unigolyn yn gymwys ar gyfer un o’r cynlluniau a enwir uchod ac yn llwyddo yn ei gais, disgwylir y bydd caniatâd yn cael ei roi i’r unigolyn ddod i’r DU neu ymestyn ei arhosiad yn y DU a bydd yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol (i) y gallu i gael mynediad at arian cyhoeddus, (ii) caniatâd i weithio a (iii) chaniatâd i astudio. (Noder: o ran caniatâd i weithio a chaniatâd i astudio – bydd angen i unigolyn llwyddiannus sy’n dymuno gweithio neu astudio fel ymchwilydd mewn maes/pwnc penodol, gael tystysgrif ddilys gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy: Atodiad ATAS i Reolau Mewnfudo’r DU: Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS). Mae’r ddau ganiatâd hyn yn bodloni’r rheol cymhwysedd sylfaenol i gymryd rhan yn rhaglenni ESF Cymru a chael unrhyw gymorth busnes gan raglenni ERDF Cymru.

Daeth Atodiad Wcráin i Reolau Mewnfudo’r DU i rym ar 30 Mawrth 2022. Hyd at y dyddiad hwn, roedd y Cynllun Teuluoedd o Wcráin a’r Cynllun Cartrefi i Wcráin yn rhedeg fel consesiwn gydag unigolion/ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar gyfer caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau. Mae hyn yn golygu, yn ystod y cyfnod hwn, efallai y bydd nifer o ddogfennau a fydd yn dderbyniol fel tystiolaeth ar gyfer bodloni’r rheol/gofynion cymhwysedd sylfaenol i alluogi pobl i gymryd rhan yn rhaglenni ESF Cymru a rhaglenni ERDF Cymru.

Cyn bo hir, bydd WEFO yn diweddaru ei Chanllawiau ESF 2014-20 ar asesu cymhwysedd cyfranogwyr i roi rhagor o fanylion am gymhwysedd yr unigolion sydd wedi gwneud cais i’r cynlluniau uchod ac sydd wedi llwyddo, ynghyd â rhagor o fanylion am ofynion penodol ar gyfer y rhai sy’n dymuno astudio pynciau penodol tra byddant yn y DU. Bydd WEFO yn ailedrych ar ei chanllawiau i ddarparu unrhyw ddiweddariadau angenrheidiol pellach, gan gynnwys hyperddolenni wedi’u diweddaru. Yn y cyfamser, rydym yn gwahodd buddiolwyr i gysylltu â’u Swyddogion Datblygu Prosiect WEFO gydag unrhyw ymholiadau sy’n benodol i’r prosiect.