Diweddaru Canllawiau WEFO ar Gostau Syml
Med 17, 2021
Cafodd y Canllawiau ar Gostau Syml – fersiwn 4 eu cyhoeddi fis Mehefin 2021 ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd ddiweddaru eu Canllawiau ar gostau syml. Dyma rai pwyntiau i’w nodi:
- Adran 4, tudalen 14 – diffiniadau cliriach o gostau staff lle cânt eu had-dalu’n rhannol gan drydydd parti.
- Adran 4, tudalen 15 – o 2 Awst 2018 ymlaen, gall cyfraniadau mewn nwyddau gan drydydd parti h.y. cyflogau a lwfansau a delir i gyfranogwyr, gael eu datgan yn ychwanegol at y costau staff uniongyrchol cymwys ac at y gyfradd wastad o 40% a roddir ar y costau staff uniongyrchol cymwys.
- Adran 5, tudalen 19 – eglurhad pellach ar gostau unedau staff fesul awr a defnyddio oriau gweithio blynyddol safonol o 1720.
- Adran 8, tudalen 38 – eglurhad pellach ar archwilio costau syml a thrywyddion archwilio disgwyliedig i gefnogi’r dull cyfrifo.
Darllen y Canllawiau Costau Syml