Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru

Meh 25, 2021

Bydd y cynllun yn galluogi dysgwyr a staff o Gymru, a’r rhai sy’n dod i astudio neu weithio yng Nghymru, i barhau i elwa ar gyfnewidiadau rhyngwladol mewn ffordd debyg i gynllun Erasmus+, nid yn unig yn Ewrop ond ymhellach i ffwrdd hefyd.

Bydd y cynllun newydd yn rhedeg o 2022 i 2026, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad o £65 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain ar y gwaith o ddatblygu’r cynllun a bydd manylion pellach ar gael yn ddiweddarach eleni.

Rhagor o wybodaeth.