
Eleni, i ddathlu cyflawniadau a llwyddiant rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru, cyflwynodd WEFO ymgyrch cyfryngau cymdeithasol wythnos o hyd. Tynnodd sylw at berfformiad nodedig y rhaglenni cyfredol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda ffocws hefyd ar nifer o themâu allweddol bob dydd: Bargeinion Dinesig a’r Rhanbarthau; Adferiad Economaidd; Carbon Isel; ac Arloesi.
Mae’r ymgyrch, a lansiwyd ddydd Llun 6ed Rhagfyr, wedi cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth, fel: ystadegau rhaglen a dangosyddion allweddol cyffredinol; gwybodaeth am gyflawniadau a llwyddiannau prosiectau; dolenni at astudiaethau achos prosiectau; ynghyd â chyhoeddiadau am fuddsoddiad cronfeydd yr UE mewn prosiectau newydd yn ogystal â buddsoddiad ychwanegol yn y rhai presennol. Y nod oedd nid yn unig dangos cyflawniadau llwyddiannus prosiectau a gyllidir gan yr UE sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fusnesau, cymunedau a phobl yng Nghymru, ond hefyd sut mae prosiectau o fewn y rhaglenni cronfeydd strwythurol yn helpu i osod y seiliau ar gyfer adferiad economaidd ôl-Covid, y pontio i genedl carbon isel, gan sbarduno buddsoddiad i mewn a meithrin gallu o safon byd mewn ymchwil ac arloesi.