Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC)

Disgrifiad o’r prosiect

Caiff Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC) ei adeiladu ar 7500m2 o dir ac yn gartref i ystod o labordai, ardaloedd ar gyfer prosesu arbrofol, swyddfeydd a mannau i gynnal cyfarfodydd, a leolir ym mhrifysgol Aberystwyth. Bydd y Campws yn cynnal ac yn hwyluso prosiectau ar y cyd gyda staff diwydiannol ac academaidd a fydd yn cael gwared ar y risgiau i’r prosiectau arloesi wrth ddatblygu meysydd bwyd y dyfodol, bioburo a bioeconomi. Bydd AIEC yn llenwi bwlch yn y ddarpariaeth o dechnoleg ac yn hyrwyddo mentergarwch ac arloesedd, a daw felly yn gartref i gymuned gryfach o gwmnïau sy’n tyfu wrth wneud gwaith datblygu trosiadol. Bydd  AIEC yn creu canolfan ranbarthol ar gyfer meithrin prosesau o sefydlu cwmnïau newydd/cwmnïau sy’n deillio o hynny, a threfnir gweithgareddau cydweithredol mewnol yn y Canolbarth.

Model Cyflawni

Gweithredir Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan AIEC Ltd, cwmni sy’n eiddo’n bennaf i Brifysgol Aberystwyth, a bydd  Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn gyfranddaliwr lleiafrifol. Caiff y Campws ei weithredu fel canolfan ddatblygu. Bwriad AIEC yw cyflogi hyd at 10 aelod staff i weithredu cyfleusterau’r campws ac i farchnata’r cynnig i fusnesau. Buddsoddwyr AIEC yw Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth a BBSRC.

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Targedau penodol

Ceir dewis cyfan o 28 o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer AIEC, gan gynnwys nifer y cwmnïau newydd a chwmnïau deillio a ddatblygir o ganlyniad i weithgareddau AIEC, nifer yr astudiaethau achos o’r effaith sy’n ymwneud â chyfleusterau AIEC, a nifer yr ymwelwyr busnes â chyfleusterau AIEC. Nod AIEC yw sefydlu canolfan biowyddorau ffyniannus i wella’r cymhwysiad o’r gronfa wybodaeth ym maes bwyd, iechyd anifeiliaid a bioeconomi i’w defnyddio mewn diwydiannau.

Manylion cyswllt

Enw: Dr Rhian Hayward MBE
E-bost: rih@aber.ac.uk
Rhif ffôn: 01970 622837
Cyfeiriad: Swyddfeydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, Gogerddan, Penrhyn-coch, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3EE
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Cynnydd

Cynnydd hyd at ddiwedd mis Awst 2019

Mae AIEC Construction yn gwneud cynnydd da – mae dau adeilad wedi’u cwblhau ac ar agor i’w defnyddio yn 2019. Cwblhawyd Biofanc Hadau newydd ar 5 Mehefin 2019 ac agorodd y Ganolfan Bioburo newydd ar 5 Awst 2019. Mae’r ddau adeilad yn weithredol bellach, ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda diwydiant yn y ddau le ar brosiectau cydweithredol.

Mae hi’n argoeli’n dda o ran cwblhau’r adeilad mwyaf ar amser – a fydd yn gartref i Ganolfan Fwyd y Dyfodol a’r Ganolfan Ddadansoddi Uwch – erbyn diwedd yr haf 2020.

Mae Swyddfa ArloesiAber wedi agor ei drysau i denantiaid – mae deg tenant newydd wedi ymgartrefu yno yn ystod 2019. Mae Aelodaeth Rithwir ac Aelodaeth Gyswllt yn cynyddu’n gyson ac mae’r broses o ymgysylltu â busnesau ar gynnydd yn arbennig yn y sectorau bioburo a bwyd a diod.

Mae gwefan newydd wedi’i lansio: http://www.aberinnovation.com/