Nod y Cronfeydd Cynhwysiant Gweithredol yw gwneud cyfraniad sylweddol at godi lefelau cyflogaeth a lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru.
Bydd grantiau yn ariannu gweithgareddau ymgysylltu (Cynnwys) a/neu gyflogaeth â thal, strwythuredig, â chefnogaeth (Cyflawni) i’r rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad lafur, er mwyn darparu sgiliau newydd a mwy o hyder i gyfranogwyr a fydd yn eu galluogi i fod yn economaidd weithgar.
Nid yw Cynhwysiant Gweithredol yn benodol o ran unrhyw wasanaeth neu weithgarwch ar gyfer prosiect neu weithgareddau Cynnwys. Ar gyfer prosiect neu weithgareddau Cyflawni, bydd Cynhwysiant Gweithredol yn ariannu mudiadau i gynnig cyflogaeth â chefnogaeth a thâl, i gefnogi a datblygu pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant a’u harwain at gyflogaeth heb gefnogaeth.
Gweithredir y prosiect ledled Cymru
Buddiolwyr: penderfynir drwy gam 1 o broses cais am grant ar-lein.
Cyfranogwyr: pobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, 16 i 24 oed.
Er nad oes targedau penodol, disgwylir y bydd y mwyafrif o’r cyfranogwyr rhwng 18 a 24 oed; bydd 50% ohonynt yn fenywod a bydd pob un yn berthnasol i un o’r categorïau canlynol: