Cydgyfeirio a Chystadleurwydd Rhanbarthol

Lido Cenedlaethol Cymru, Pontypridd

Rhwng 2007 a 2013, gweithredodd y rhaglen Gydgyfeirio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd a’r rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol yn Nwyrain Cymru.

Cydgyfeirio

Roedd rhaglen Cyllid Cydgyfeirio yr UE yn weithredol o 2007 i 2013, a buddsoddodd £1.8 biliwn o arian yr UE, gan ysgogi cyfanswm o £3.4 biliwn o fuddsoddiad. Diogelodd a chreodd y rhaglen swyddi a busnesau hyd yn oed yn ystod argyfwng economaidd byd-eang 2008/9.

Roedd y rhaglen Gydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynnwys Awdurdodau Unedol Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.

Effaith y Rhaglen Gydgyfeirio ar Dde-ddwyrain Cymru

Roedd oddeutu 290 o brosiectau ledled Cymru ac mae rhai esiamplau o’r prosiectau hynny sy’n effeithio ar ranbarth y De-ddwyrain yn cynnwys:

  • £85 miliwn ar gyfer 33,000 o brentisiaethau a 12,000 o hyfforddeiaethau ledled Cymru i gyflogwyr, gan gynnwys Airbus, Admiral a GE Aviation
  • £3 miliwn ar gyfer ailddatblygu Lido Pontypridd
  • £79 miliwn ar gyfer gwaith deuoli Ffordd Blaenau’r Cymoedd, yr A465
  • £21 miliwn ar gyfer uwchraddio gorsafoedd rheilffyrdd ar draws Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, Caerfyrddin, Llandudno, Pontypridd a Phort Talbot
  • £2.1 miliwn ar gyfer hyrwyddo Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ymhlith pobl ifanc drwy’r prosiect STEM Cymru
  • £80 miliwn ar gyfer gwelliannau canol y dref a chynlluniau adfywio ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful, Pontypridd, Aberystwyth, Llanelli a Chasnewydd.
  • £7.3 miliwn ar gyfer Parth Dysgu Blaenau Gwent
  • £33 miliwn ar gyfer y rhaglen Twf Swyddi Cymru, sydd wedi creu swyddi i dros 15,000 o bobl ifanc 16-24 oed ledled Cymru

Rhwng 2007 a 2013, cyflawnwyd y canlynol yn sgil prosiectau Ewropeaidd oedd ar waith yn y De-ddwyrain:

Mentrau a gynorthwywyd 6,608
Mentrau a grëwyd 5,463
Swyddi gros a grëwyd 16,738
Cyfranogwyr 316,813
Cyfranogwyr a gafodd gyflogaeth 39,450
Cyfranogwyr a ddechreuodd ar addysg bellach 30,807
Cyfranogwyr a enillodd gymwysterau 121,533

Mae’r ffilm hon yn rhoi golwg cyffredinol o sut y defnyddiwyd cyllid Cydgyfeirio yn Ne-ddwyrain Cymru:


Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol

Roedd y Rhaglen Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol yn cynnwys Awdurdodau Unedol Caerdydd; Sir y Fflint; Sir Fynwy; Casnewydd; Powys; Bro Morgannwg a Wrecsam. Roedd oddeutu £97 miliwn o Gyllid Ewropeaidd ar gael o dan y rhaglen a ddechreuodd gael ei alw’n ‘Cystadleurwydd’. Datblygwyd y blaenoriaethau ar gyfer cyllid i wireddu’r weledigaeth o greu rhanbarth ffyniannus, llewyrchus a chystadleuol â gweithlu medrus ac arloesol a all gystadlu yn rhyngwladol.

Datblygwyd dwy Raglen Weithredol ar gyfer Dwyrain Cymru, un ar gyfer Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac un ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Blaenoriaethau Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Blaenoriaeth 1 – Gwybodaeth ac arloesi ar gyfer twf
Blaenoriaeth 2 – Natur Gystadleuol A Thwf Busnesau
Blaenoriaeth 3 – Mynd i’r Afael â’r Newid yn yr Hinsawdd
Blaenoriaeth 4 – Adfywio ar gyfer Twf

Blaenoriaethau Cystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Blaenoriaeth 1 – Cynyddu cyflogaeth a mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd
Blaenoriaeth 2 – Gwella lefel sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu

I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau’r rhaglenni Cydgyfeirio a Chystadleurwydd a Chyflogaeth Ranbarthol yng Nghymru, cliciwch yma i fynd i wefan WEFO.