Erasmus+

Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.

Ei nod yw rhoi hwb i sgiliau a chyflogadwyedd, yn ogystal â moderneiddio addysg, hyfforddiant a gwaith iechyd a hyrwyddo arloesi, entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd ledled Ewrop. Bydd yr arian hwn yn helpu pobl i astudio, hyfforddi, cael profiad gwaith a gwirfoddoli mewn gwlad dramor. Mae hefyd yn cefnogi partneriaethau trawswladol rhwng sefydliadau addysg, hyfforddiant ac ieuenctid, yn ogystal â phrosiectau chwaraeon ar lawr gwlad.

British Council sy’n rheoli’r rhaglen Erasmus+ yn y DU, mewn partneriaeth ag Ecorys UK, ac mae gwefan Erasmus+ yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr holl raglenni sydd ar gael.

Darperir Erasmus+ i:

  • ysgolion;
  • sefydliadau addysg bellach ac uwch;
  • darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol;
  • addysg i oedolion; a
  • sefydliadau ieuenctid sy’n rhan weithredol o ddarparu addysg, hyfforddiant a gwaith ieuenctid ffurfiol ac anffurfiol.

Bydd hefyd yn darparu cyllid ar gyfer partneriaethau rhwng, er enghraifft, sefydliadau addysg, mudiadau ieuenctid, mentrau, awdurdodau lleol a rhanbarthol a chyrff anllywodraethol.

Mae Erasmus+ yn disodli’r rhaglenni Erasmus, Comenius, Youth in Action, Leonardo, Grundtvig a Transversal blaenorol a oedd yn weithredol rhwng 2007 a 2013.

Ewch i wefan Erasmus+ i gael manylion llawn am wneud cais.