Taflen ffeithiau prosiect

Taflen ffeithiau prosiect

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

Gwerthuso prosiect

Gwerthuso

Gwerthuso Cychwyn IMPACT

Cliciwch lun i lawrlwytho PDF

IMPACT (Y Sefydliad ar gyfer Deunyddiau Arloesol, Prosesu a Thechnolegau Rhifol)

Disgrifiad o’r prosiect

Mae IMPACT yn ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n arbenigo mewn deunyddiau, prosesu a thechnolegau rhifol.

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth hon yn rhan o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ac yn darparu amgylchedd ymchwil trawsnewidiol effeithiol iawn ar gyfer partneriaethau academaidd diwydiannol ac ymchwil sylfaenol, gydweithredol.

Nod IMPACT yw diogelu’r diwydiant deunyddiau a pheirianneg uwch byd-eang yn y dyfodol drwy gydweithrediadau sy’n gwella capasiti ymchwil ac yn cynyddu cystadleurwydd.

Model Cyflawni

Mae IMPACT yn cynnig y gallu i gael gafael ar arbenigedd o safon fyd-eang a ysgogwyd drwy gydweithio dwys rhwng y diwydiant a’r byd academaidd – gan alluogi amgylchedd ymchwil trawsnewidiol effeithiol iawn a’i wneud yn gyfleuster cydleoli unigryw ar gyfer y partneriaethau academaidd-ddiwydiannol.

Un o’r amcanion allweddol yw helpu busnesau a diwydiant i ddod o hyd i atebion arloesol. Drwy ein meysydd arbenigedd, gallwn gynnig mewnwelediad i’r datblygiadau ymchwil diweddaraf ynghyd â’n labordai o’r radd flaenaf, ein gweithdy a’n hoffer arbenigol.

Bydd cydweithrediadau IMPACT rhwng y byd academaidd a’r diwydiant yn darparu cyfle unigryw i gwmnïau gael gafael ar:

  • Gyfleusterau ymchwil a chydleoli o’r radd flaenaf mewn sefydliad ymchwil pwrpasol newydd
  • Arbenigwyr academaidd o’r radd flaenaf o’r Coleg Peirianneg
  • Ymchwilwyr â chymwysterau uchel o bob rhan o’r Brifysgol sy’n defnyddio dull amlddisgyblaeth

Cwmpas daearyddol

Bydd y prosiect o fudd i Ben-y-bont ar Ogwr ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ogystal ag Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin.

Targedau penodol

  • Nifer y cyfleusterau seilwaith ymchwil sydd wedi eu gwella
  • Nifer yr ymchwilwyr sy’n gweithio mewn cyfleusterau seilwaith ymchwil sydd wedi eu gwella
  • Swm y cyllid ymchwil a sicrhawyd (£)
  • Nifer y mentrau sy’n cydweithio â sefydliadau ymchwil a gynorthwyir
  • Nifer yr ymchwilwyr newydd mewn endidau a gynorthwyir

Manylion cyswllt

E-bost: impact-communications@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 606908
Cyfeiriad: Coleg Peirianneg, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Abertawe, SA1 8EN
Gwefan: Website
Twitter: Twitter

Manylion ychwanegol

Instagram: Dolen

Cynnydd

Y cynnydd hyd at ddiwedd Awst 2019

Dechreuodd gweithrediad IMPACT yn 2015. Dechreuwyd adeiladu’r adeilad newydd ym mis Medi 2017 ac fe’i cwblhawyd ym mis Mai 2019. Mae atriwm cysylltiedig yn rhannu’r adeilad ei hun yn ddwy ardal amlwg, sy’n cynnwys adeilad swyddfa ymchwil ac adeilad labordy gyda gweithdy cynllun agored 1,600m2. Mae’r gwaith ar y trywydd iawn o ran cyflawni pob un o’i dargedau. Cynhelir lansiad swyddogol yr adeilad ym mis Chwefror 2019.